Categori /
Gŵyl
Murlun Mawreddog Tafwyl @ Lolfa Lên Tafwyl
Galwch heibio dros y penwythnos i ysgrifennu cerdd fach gyda ni a’i gweld yn dod yn fyw o flaen eich llygaid!
Bydd yr awdur, cyflwynydd teledu a’r cartwnydd o’r Rhondda, Siôn Tomos Owen, yn defnyddio eich cerddi fel ysbrydoliaeth ar gyfer creu murlun mawreddog dros y deuddydd. Bydd Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, wrth law i helpu chi greu cerddi drwy’r dydd Sadwrn, ac Eurig Salisbury drwy’r dydd Sul.
11.30am-4.30pm Dydd Sadwrn a Dydd Sul Tafwyl
Canllaw oed 5+. Trefnwyd ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a’r Urdd.