I athrawon CA2

Cyfle i archwilio dulliau ac ymarferion i gynorthwyo athrawon i ysbrydoli disgyblion i ysgrifennu yn greadigol.

AM DDIM gyda cyfraniad o £100 tuag at gostau llanw.

Gyda’r awdur ac athrawes Haf Llewelyn a Bethan M. Hughes, byddwn yn edrych ar sut i gefnogi athrawon i helpu disgyblion i fod eisiau darllen er mwyn pleser, cael syniadau ar gyfer straeon a’u hysgrifennu.

Nifer cyfyngedig o lefydd, archebwch nawr!