Noson yng nghwmni Ifor ap Glyn
Cawn gwmni yr awdur Ifor ap Glyn pan fydd yn darllen a thrafod ei waith. Bydd cyfle i aelodau y Gymdeithas holi Ifor a thrafod ei waith. Gobeithiwn roi cyfle i bobol ddod i gyfarfodydd y Gymdeithas i fwynhau gwrando ar awdur cydnabyddedig ac arbennig.
Cymdeithas yw hon sydd yn ceisio dod a phobol at ei gilydd i fwynhau; mae’n agored i bawb.
Caiff y noson ei chynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.