Dewislen
English
Cysylltwch

Trwy weithio ar y cyd â Thîm Iechyd Meddwl Y Rhyl ac Uned Celfyddydau Cymunedol Sir Ddinbych, cynhaliodd Llên Pawb brosiect a ddatblygodd y ddarpariaeth o Bresgripsiwn Cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Dros gyfnod o chwe wythnos, arweiniodd Jill Teague weithdai ysgrifennu creadigol i unigolion sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl yn nhref Y Rhyl.

Mae Jill Teague yn fardd a Therapydd Barddoniaeth â blynyddoedd o brofiad o weithio gyda grwpiau ac unigolion yn y meysydd iechyd a llesiant. Dewisodd y mynychwyr y thema ‘Yn Ein Pocedi’ ar gyfer y prosiect a oedd yn archwilio agweddau o’n bywydau yr ydym yn dal yn agos atom.

Nôl i Llên Pawb | Lit Reach