Dewislen
English
Cysylltwch

Y Broses Ymgeisio

Rydym wedi creu fersiynau dyslecsia gyfeillgar a print bras o’r alwad agored ac o’r cwestiynau cyffredin gan ddefnyddio Word. Rydym hefyd wedi creu fersiwn Word o’r ffurflen gais fel bod modd i chi ddarllen y cwestiynau cyn mynd ati i’w llenwi.

Mae rhain oll ar gael o’r dudalen Lawrlwytho.

 

Y Cwrs

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros blatfform digidol Zoom a bydd pob gweithdy digidol yn para 2 awr, gydag egwyl yn y canol. Os oes angen at ddibenion mynediad, gellir recordio sesiynau er mwyn galluogi cyfranogwyr eu gwylio yn ôl yn eu hamser eu hunain.  

Bydd Llenyddiaeth Cymru  yn darparu dogfen hygyrchedd i bob ymgeisydd llwyddiannus, er mwyn holi am unrhyw ofynion mynediad sydd gennych. Byddwn yn cynnig cymorth digonol lle bo angen. Er enghraifft, gallwn drefnu gwasanaeth capsiwn byw neu ddehonglydd BSL i fod yn bresennol yn ystod y sesiynau. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i sgwrsio neu ateb gwestiwn cyn y cwrs er mwyn sicrhau bod y cwrs mor hygyrch, cyfforddus a phleserus ac sydd yn bosib i bawb. 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio  mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth. 

 

Isod ceir crynodeb o’r cwrs ar ffurf fideo mewn Iaith Arwyddo Prydeinig (BSL).

 

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl