Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Kaite O’Reilly yn gweithio’n rhyngwladol fel dramodydd, awdur a thiwtor. Enillodd Wobr Ted Hughes am Weithiau Newydd mewn Barddoniaeth am ei haddasiad o Persians, a gynhyrchwyd gan National Theatre Wales yn eu blwyddyn agoriadol. Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys Gwobr Peggy Ramsay, Gwobr Theatr Cymru, Gwobr Theatr Manceinion, Canmoliaeth er Anrhydedd am Wobr Jane Chambers a Gwobr Ryngwladol Elliot Hayes am Gyflawniad Eithriadol ym myd Drama. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Susan Smith Blackburn i ddramodwyr benywaidd a rhestr fer Gwobr Ryngwladol James Tait Black am Ddrama, a hynny ddwywaith. Mae ei gwaith wedi ei gynhyrchu mewn pymtheg o wledydd ledled y byd, yn fwyaf diweddar Told by the Wind, Lie with Me a peeling. Mae ei dramâu sydd wedi derbyn canmoliaeth brwd yn cynnwys Atypical Plays for Atypical Actors (2016) a The ‘d’ Monologues (2018) ill dau wedi’u cyhoeddi gan Oberon. Mae’n dysgu ymarfer drama yn yr Intercultural Theatre Institute yn Singapôr ac yn noddwr DaDaFest. 

www.kaiteoreilly.com | http://www.kaiteoreilly.wordpress.com | @kaiteoreilly 

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl