Ust.
Sut mae geiriau’n symud,
yn tynnu trwy’r ddawns
rhwng tafod a chlust?
Ust.
Sut mae brawddegau’n anniddigo,
yn tapio’u traed,
yn ymollwng eu cymalau
nes i’r corff cyfan ganu,
nes twrio i’r ystyron dyfna’?
Ust.
A sut mae dwyiaith cerdd a dawns
yn plethu a chordeddu awr,
cyn ildio i’r llonyddwch mawr
a’r mudandod mwy?
Ust… Ust… Ust…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma un o gerddi casgliad Plethu | Weave, cywaith traws gelfyddyd ddwyieithog rhwng dau o gwmnïoedd celfyddydau cenedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Prosiect yn ystod y cyfnod clo oedd Plethu/Weave yn wreiddiol, gyda dawnswyr a beirdd yn plethu eu crefftau gwahanol gyda’i gilydd er mwyn creu ffilmiau byrion gwreiddiol. Darllenwch fwy am y prosiect yn fan hyn.)