Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru 4: Y Panel Asesu

Anwen Hooson
Cadeirydd
Mwy
Raymond Antrobus
Mwy
Brennig Davies
Mwy
Angela Hui
Mwy
Anwen Hooson
Cadeirydd

Dechreuodd Anwen ei gyrfa yn adrannau’r wasg yn Penguin a Waterstones, cyn cyd-sefydlu Riot Communications, a ddaeth yn gyflym yn un o’r asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus mwyaf uchel ei barch a dylanwadol yn y diwydiant cyhoeddi. Yn 2018, lansiodd Anwen Bird Literary Agency, gyda'r bwriad o fagu llyfrau a fyddai'n ysbrydoli ac yn pryfocio. Ymhlith ei hawduron mae Caryl Lewis, Liz Hyder, Kirsty Capes, Huw Aaron, Jodie Lancet-Grant a Moira Buffini.

Roedd Anwen yn feirniad yn y British Book Awards 2018-2022, a cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng y British Book Awards 2023.

Cau
Raymond Antrobus

Mae Raymond Antrobus yn fardd, yn awdur ac yn ddarlledwr. Ganed yn Llundain i fam o Loegr a thad o Jamaica. Mae'n raddedig o Cave Canem ac yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Ef yw awdur To Sweeten Bitter (UK, Out-Spoken Press), The Perseverance (UK, Penned in the Margins/US, Tin House) a All The Names Given (UDA, Tin House/UK, Picador) yn ogystal â’r llyfr lluniau plant Can Bears Ski? (DU, Walker Books / UD, Candlewick).

Ef yw derbynnydd 2019 Gwobr Ted Hughes yn ogystal â Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times/Prifysgol Warwick a Raymond oedd y bardd cyntaf i ennill Gwobr Ffolio Rathbone. Cyrhaeddodd ei gasgliad hyd llawn cyntaf, The Perseverance, restr fer Gwobr Farddoniaeth Griffin a The Forward Prize, roedd All The Names Given ar restr fer Gwobr T.S. Eliot a Gwobr Costa. Hefyd yn 2021 ychwanegwyd ei gerddi at faes llafur TGAU y DU.

Cau
Brennig Davies

Awdur a bardd o Fro Morgannwg yw Brennig Davies. Enillodd e Wobr Awduron Ifanc y BBC yn 2015 a Choron Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae ei waith wedi ymddangos yn Poetry Wales, Litro USA, Ffosfforws, a The Cardiff Review, ac yn 2023 fe gafodd ei ddewis fel un o Awduron wrth eu Gwaith Gwyl y Gelli, menter a noddwyd gan Llenyddiaeth Cymru. 

Cau
Angela Hui

Mae Angela Hui yn newyddiadurwr, golygydd ac awdur arobryn Takeaway: Stories from a Childhood Behind the Counter. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi yn The Guardian, Financial Times, HuffPost, Independent, Lonely Planet, Refinery29, The Times a Vice, ymhlith eraill. Hi oedd cyn-olygydd bwyd a diod Time Out a golygydd REKKI. Ar hyn o bryd, mae hi'n llawrydd.

Cau