Dewislen
English
Cysylltwch

Gair i Gall – Cynrychioli Cymru

Cyhoeddwyd Maw 30 Tach 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gair i Gall – Cynrychioli Cymru

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am le ar raglen Cynrychioli Cymru? Dyma rai o’n hargymhellion wrth i chi fynd ati i gyflwyno eich cais:

Darllenwch y Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin Cynrychioli Cymru yn drylwyr cyn cwblhau’r ffurflen gais.

Cysylltwch â ni os nad ydych chi yn gwbl siŵr os ydych yn gymwys i ymgeisio, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi am y rhaglen neu’r broses ymgeisio. Os ydych chi yn bryderus ynglŷn ag unrhyw gam o’r broses ymgeisio, mae tîm Llenyddiaeth Cymru yn barod i helpu drwy sgwrs anffurfiol ar y ffôn, dros Messenger Facebook neu dros e-bost.

Sicrhewch eich bod yn barod i ymroi i ofynion y rhaglen pe byddech yn llwyddiannus, yn cynnwys cymryd rhan yn y digwyddiadau i gyd, i wneud yn fawr o’r cyfleoedd datblygu yn llawn.

Peidiwch rhuthro eich cais. Caniatewch digon o amser er mwyn cwblhau yr atebion a pharatoi eich gwaith creadigol. Beth am weithio ar eich atebion mewn dogfen Word, i wneud yn siŵr eich bod yn gwbl hapus cyn eu copïo a gludo i mewn i’r ffurflen gais? Bydd hyn hefyd yn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw atebion drwy wall technegol.

Sicrhewch fod eich llais unigryw chi yn ganolog i’r cais. Rydym yn disgwyl nifer fawr o geisiadau, felly sicrhewch fod eich cais yn disgleirio drwy arddangos eich cymeriad ac angerdd diffuant chi yn eich atebion. Cofiwch mai rhaglen i awduron yw hon, felly bydd y panel yn edrych am y ddawn o strwythuro ac adrodd stori dda, hyd yn oed yn eich ffurflen gais.

Gwiriwch eich ffurflen gais cyn anfon – a gwneud yn siŵr eich bod wedi ateb pob cwestiwn yn llawn. Fyddwn ni ddim yn beirniadu neb am wallau iaith, ond ceisiwch sicrhau fod eich ateb yn llifo ac yn gwneud synnwyr.

Peidiwch â mynd dros y canllaw mwyafrif geiriau.

 

Ystyried ymgeisio ond ddim yn siŵr pa waith creadigol i’w anfon?

Dewiswch eich gwaith gorau. Mae’n broses gystadleuol, ac mae angen i’ch gwaith ddal sylw’r panel asesu. Mae croeso i chi yrru gwaith sydd wedi ei ddefnyddio gennych yn flaenorol, e.e. mewn cystadleuaeth neu hyd yn oed mewn darn sydd wedi ei gyhoeddi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau, ac yn gyrru darn creadigol rhwng 2,000 a 4,000 o eiriau o ryddiaith neu rhwng 4 ac 8 cerdd. Ni fydd modd i’r Panel Asesu ddarllen gweithiau rhy hir, ac felly fe all wneud hyn fod yn niweidiol i’ch cais. Ceisiwch sicrhau eich bod yn hoelio sylw’r darllenydd yn fuan yn eich darn creadigol.

Awgrymwn eich bod yn golygu, mireinio a fformatio eich gwaith ar y gweill. Gall fod yn ddrafft cyntaf, ond mae angen ei gyflwyno’n broffesiynol fel mai’r gwaith ei hunan sy’n tynnu sylw’r Panel Asesu.

Peidiwch gadael eich cais tan y funud olaf yn yr awr olaf ar y diwrnod olaf…