Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #43: Paentio Tatws Melys

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds

Paentio tatws melys

 

Cymer daten felys

a’i cherfio’n ofalus,

i greu siâp syml,

gosoda hi mewn paent

ac yna’i gwasgu ar ddalen wag

gan adael cusanau gwlyb o liw

fel ôl troed ar lwybr,

ffurfafen o sêr,

neu gôr o galonnau.

– Elinor Wyn Reynolds, 10.27 pm

 

Uncategorized @cy