Her 100 Cerdd #58: Super Mario
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Super Mario
Mae llawer arwr yn y byd
ond Mario yw’r dewra ohonyn nhw i gyd
Stompio pob un gamba a’i draed
helpu Luigi (os oes rhaid)
Casglu ceiniogau aur o’r llawr
byta shrwms i dyfu’n fawr
Gwêl ei fwstash a’i het goch
eicon steil gyda ‘iahŵ’ groch
Lej o foi, pwy arall sy’
medru datgan “It’s a me”?
– Dyfan Lewis, 1:23 am