Her 100 Cerdd #60: Gyfyrddin
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Gyfyrddin
Fi’n caru Gyfyrddin, fi rili yn,
dyw hi ddim yn fawr na’n fach, mae hi jyst yn medium.
Sdim byd ffansi amdani fel tre
smo ’ddi’n trio bod yn rhyw posh designer lle.
Dyw hi ddim â syniade uwchlaw ei stad,
ddim yn biggo’i hunan lan na gwerthu’i stoc yn rhy rad –
mae hi jyst yn gweithio yn gwmws fe mae hi,
tamed bach yn olreit a ddim yn rhy shabi.
Ma popeth i ga’l yn Gyfyrddin
parc, Marcs an Sbarcs a’r dewin Myrddin.
Sdim byd yn bod ar y dre hon, sbo
mae hi’n ddigon da i ni, fe wnaiff hi’r tro.
– Elinor Wyn Reynolds, 1:39 am