Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #75: Ja-bear!

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker

Ja-bear!

Enw tedi y prynais fel anrheg i’m dyweddi, Ebony, pan ddechreuon ni garu. Enwon ni’r tedi ar ôl fy hoff gymeriad o’r sioe gerdd ‘Les Miserables’, sef Javert.

 

Bu Ja-bear yn cysgu ar ein pwys ni
ers bron i chwe blynedd yn awr.
Pa debygrwydd sydd rhwng
Ja-bear a Javert gwedwch?
Dim ond eu henwau ‘sbo!

Ja-bear, y tedi twymgalon
m’ond pellter braich i ffwrdd,
sy yno’n barod i’n cysuro
ar unrhyw adeg!

Javert, yr insbector oeraidd o Baris
a yrrwyd i’w hunanladdiad
yn ei wallgofrwydd oherwydd tosturi ei elyn!

Dewison ni’r enw oherwydd yr odl ‘na gyd…

– Matthew Tucker, 5:25 am

Uncategorized @cy