Beyond the Border yw gŵyl chwedleua fwyaf Prydain ac i ddathlu ein pen-blwydd yn 30, byddwn yn dod â’r chwedleuwyr ac artistiaid gorau o Gymru, Prydain a rhyngwladol i Sir Gaerfyrddin.

Mae’r lleoliad anhygoel hwn yn gyforiog o straeon, mythau, chwedlau, hanes, gyda bywyd gwyllt a natur o’n cwmpas ym mhobman.

Cynhelir ein gŵyl hudolus ymysg y tirwedd, adeiladau, castell a choedwigoedd yn llawn straeon, perfformiadau a cherddoriaeth fyw ar gyfer oedolion, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn ogystal â’n pen-blwydd yn 30 oed, byddwn yn dathlu cymunedau amrywiol Cymru yn eu gwahanol ieithoedd.
Byddwn yn cynnig ein rhaglen arferol o’r chwedleuwyr gorau yng Nghymru, Prydain a’r byd, ynghyd ag anturiaethau chwedleua newydd a lleisiau newydd.

Bydd hefyd droeon stori, gweithdai, sgyrsiau yn ogystal â ffyrdd i ymlacio yn y lleoliad godidog hwn.

Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar ein cae Gwersylla a hefyd safle Cerbydau Byw a Chysgu. Rhagwelwn y bydd y ddau safle yn llenwi mewn dim o dro felly byddem yn eich cynghori i archebu’n gynnar os dymunwch aros ar y safle.