Mae Darllen yn Bwysig – Cysylltu Teuluoedd Sy’n Byw Mewn Tlodi â Grym Trawsnewidiol Darllen Er Pleser

Mae Cynhadledd Partneriaid Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru eleni’n dod â lleisiau proffil uchel ynghyd, gan gynnwys awduron a darlunwyr llyfrau plant, sefydliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cefnogi plant a theuluoedd.

Gyda’n gilydd, byddwn ni’n archwilio pam fod cael mynediad i lyfrau a darllen er pleser mor bwysig i bob teulu, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi.

Bydd y gynhadledd yn digwydd fel cyfres o weminarau ar lein dros 3 diwrnod. Bydd y gweminarau hyn ar ffurf trafodaeth banel a 3 sesiwn rhannu ymarfer. Cyfranwyr i’w cadarnhau.

Wrth i chi gofrestru ar gyfer y gynhadledd byddwch chi’n derbyn dolenni i fynychu pob un o’r gweminarau a welir isod. Hoffem eich annog i fynychu pob gweminar, ond os nad yw hyn yn bosib, bydd modd cael recordiadau ohonynt yn fuan wedi’r digwyddiad.

I’r mynychwyr hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol â theuluoedd, gallwch ddewis derbyn detholiad i lyfrau dwyieithog i’r blynyddoedd cynnar ar gyfer eu defnyddio yn eich lleoliad (cyfyngir i’r 350 mynychwr cymwys cyntaf i gofrestru). Anfonir y rhain atoch drwy’r post yn fuan wedi’r digwyddiad.

Bydd pob gweminar yn digwydd ar lein dros Zoom.