Mae Rhian Elizabeth yn gynghorwr dan hyfforddiant ac yn awdur. Cafodd ei geni yn 1988 yn y Rhondda, De Cymru, ac mae nawr yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n Awdur wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli ac yn Awdur Preswyl yng Ngŵyl Llenyddol Rhyngwladol Coracle yn Tranås, Sweden.

Mae girls etc yn lyfr pwysig sy’n herio profiadau o gam-drin mewn perthynas lesbiaidd yn agored. Mae’r cerddi tyner yma, sy’n trafod bod yn fam a chariad hoyw, yn fwy ingol oherwydd y gwrthgyferbyniad yma…

Dyma ysgrifennu angerddol a soniarus – John McCullough

Mae’r bardd a’r cyflwynydd radio clare yn cynnal gweithdai llesiant ac mae ar hyn o bryd yn gweithio ar gasgliad o gerddi Cymraeg. Ysgrifennwyd ei llyfr newydd, Healing the Pack, trwy gymorth bwrseriaeth gan Llên Cymru a grant gan Cymdeithas yr Awduron.

Wrth lywio drwy dir cymhleth adfyd a galar, cawn fardd sy’n codi uwchben ofn a chywilydd gan fod yna sylfaen amlwg o gariad, wedi ei wreiddio yn y profiad o fod yn fam, ym myd natur a iaith fel tyst, a’r alwad cysefin.

Mae Bella Collins yn gantores, gitarydd ac ysgrifennwr caneuon o Gaerdydd. Mae ei cherddoriaeth wedi ei wreiddio’n gadarn yn y blues, ond mae hefyd wedi ei dylanwadu gan jazz, soul a R’n’B o’r hen arddull ac mae ei arddull lleisiol unighryw, a’r caneuon a ysgrifennwyd ganddi, yn dangos dylanwadau’r genres hynny.

Mae Bella’n recordio ei cherddoriaeth newydd cynta ers 2016 ar hyn o bryd, ac mae’n edrych ymlaen yn fawr i fynd ar y ffordd gyda’i band newydd a set o ganeuon newydd sbon.

Dydd Iau 9 Mai

Drysau – 6.30 Dechrau – 7.00

AM DDIM – croeso i chi gyfrannu at y lluniaeth