Darlith a thrafodaeth ar y testun ‘Y Stori yn ein Bywydau’ gan Huw Garmon.

Mae’n fab i R. Cyril Hughes, awdur cyfres ‘Catrin o Ferain’ a’r diweddar Nan Hughes, prifathrawes Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel. Cafodd ei fagu yng nghymuned glós Penmynydd, Môn ac yn Ysgol Sul a Chanolfan Gymunedol y pentref hon, a phentrefi cyfagos y mentrodd ar lwyfan yn gyntaf. Dechreuodd ei ddysg ym myd y ddrama yng ngholeg Prifysgol Aberystwyth lle enillodd ei radd mewn Drama cyn mynd ymlaen i goleg drama yn Llundain. Bellach mae Huw wedi ennill lle anrhydeddus ym myd y theatr, ffilm a theledu ac aeth y ffilm ‘Hedd Wyn’ (1992) a’i enw i’r entrychion gydag enwebiad am Oscar. Yn fwy diweddar bu’n ymddangos ar ‘Pobl y Cwm’ rhwng 1997 a 2004 fel Steffan Humphreys ac ar hyn o bryd mae’n chwarae rhan John Richards, perchennog garej ar y gyfres ‘Rownd a Rownd’.

Dros y blynyddoedd mae Huw wedi sgriptio, cyfarwyddo a sgwennu sioeau ac mae o’n parhau i ddarlithio’n rhan amser yn adran Theatr, Teledu a Pherfformio Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Caiff y gweithdy ei gynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.