Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu falle eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd.

Mae’r Ganolfan o fewn pellter cerdded i’r traeth a glan Afon Dwyfor, a cewch fwynhau milltiroedd o deithiau cerdded drwy’r coed wedi eich amgylchynu gan fywyd gwyllt a phrydferthwch natur. Mae Tafarn y Plu hefyd o fewn tafliad carreg, lle gewch bob amser groeso cynnes. Bydd pawb â’i ystafell ei hun ar ein hencilion, a cewch ddewis eich ystafell wrth archebu eich lle. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu.

Yn ystod yr encil hon, bydd yr asiant llenyddol Jenny Hewson yn ymweld am ychydig ddyddiau i gynnig cyngor i’r grŵp ar ddatblygiad proffesiynol awduron, yn cynnwys ymarfer da o ran dod o hyd i asiant, sut i gyhoeddi eich gwaith, cyngor ar y diwydiant a mwy. Bydd Jenny hefyd ar gael am gyfarfodydd un-i-un gyda phawb i drafod eich gwaith a’ch taith fel awdur.

 

Darllenydd Gwadd

Jenny Hewson

Asiant llenyddol yw Jenny Hewson gydag Asiantaeth Lenyddol Lutyens and Rubinstein. Mae hi’n cynrychioli nifer o awduron sydd wedi ennill gwobrau lu ac wedi cyrraedd rhestrau’r gwerthwyr gorau. Yn eu plith mae Alys Conran, Sarah Perry, Melissa Harrison, Amy Sackville, Lauren Owen ac Ashley Hay. Mae ganddi ddiddordeb mewn ffuglen lenyddol, ffuglen hanesyddol, ffuglen clybiau darllen, ffuglen gothig, naratifau ffeithiol, cofiannau, a chynnyrch gan academyddion ac arbenigwyr o bob math sy’n gallu cyflwyno gwaith ffeithiol gwych i gynulleidfa gyffredin. Mae awduron sydd o dan adain Jenny wedi ennill Gwobr Man Booker, Gwobr Awduron y Gymanwlad, a Gwobr John Llewellyn Rhys, ynghyd â chyrraedd brig rhestrau gwerthwyr gorau’r Sunday Times a’r New York Times.