Tiwtoriaid / Huw Aaron & Luned Aaron

Ymunwch gyda’r cwpl creadigol – yr awduron, arlunwyr a chyhoeddwyr – Huw a Luned Aaron am ddeuddydd o ymgolli mewn creu cyfrolau gair-a-llun i blant ifanc. Byddwn yn trafod sut i neidio o syniad i stori, ac yna sut i lywio plot i’w derfyn. Byddwn yn ystyried yr elfen weledol, yn ymrafael gydag odl a mydr, ac yn ystyried sut y gall un llyfr gyfathrebu gyda phlant a hefyd gyda’r oedolion sy’n darllen y llyfrau ar lafar. Byddwn yn edrych ar ddefnyddio hiwmor rhwng y tudalennau gan gofleidio’r annisgwyl. Byddwn hefyd yn trafod sut i hwyluso’r broses o gyflwyno a gwerthu eich stori i gyhoeddwr.

Dyma gwrs sy’n addas i awduron a darlunwyr sy’n ddechreuwyr a rhai mwy profiadol. Os oes gennych chi egin stori neu syniad ar y gweill, dewch â hi! Bydd y cwrs yn cychwyn am 11.00 am fore Sadwrn, ac yn dod i ben toc wedi cinio ar y dydd Sul. Os ydych chi’n byw yn lleol, ac yn awyddus i ymuno yn ddi-breswyl, cysylltwch â ni i holi am ostyngiad.