Nid yw’r dosbarth meistr hwn yn ymwneud a’r crefft o ysgrifennu, mae’n ymwneud â sut i roi’r cyfle gorau posibl i chi a’ch llyfr o ran mynd at asiantau llenyddol.

Ymunwch â dau asiant llenyddol blaenllaw ar gyfer y dosbarth meistr dwy awr arlein hwn lle byddwch yn derbyn cyngor sut i gynhyrchu llythyr eglurhaol, arweiniad ar gynhyrchu cyflwyniad i dynnu sylw, awgrymiadau ar ysgrifennu crynodeb, a mewnwelediad cyffredinol i’r rôl asiantau llenyddol i’w hawduron.

Bydd tri deg munud ar gael ar gyfer sesiwn holi-ac-ateb, tra bydd pawb sy’n bresennol yn cael y cyfle i gyflwyno eu llythyr eglurhaol i gael adborth gan un o’r asiantau sy’n cymryd rhan.

Mae ffi’r gweithdy o £50 (gan gynnwys TAW) yn daladwy’n llawn arlein.

Mae hwn yn ddigwyddiad byw arlein a fydd yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio meddalwedd fideo-gynadledda. Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac arweiniad yn cael ei darparu llawn wythnos cyn dyddiad dechrau’r digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys testun ysgrifenedig a lluniau. Cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn wneud trefniadau i sicrhau bod pob dogfen yn ymddangos mewn fformat sy’n gweithio i chi.

Mae Writers & Artists wedi sicrhau bod hyd at bum lle bwrsariaeth ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Ewch i ein tudalen bwrsariaethau i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais. Rhaid bod pob cais am fwrsariaeth wedi’i gyflwyno i’w ystyried erbyn dydd Mercher 25 Gorffennaf.