Mae Catrin Kean wedi cael ei straeon byrion wedi’u cyhoeddi gan Riptide Journal, Bridge House Publishing a The Ghastling. Enillodd ei nofel gyntaf, Salt, Lyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2021 ac mae wrthi’n gweithio ar ei hail nofel a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024. Mae hi hefyd yn gweithio ar sgript ffilm a chasgliad o straeon arswyd byrion. Mae Kean yn byw yng Nghwm Garw gyda’i phartner a’u tri helgi Rhodesaidd.

Mae Salt yn seiliedig ar fywydau hen daid a hen nain Kean, a briododd ym 1878. Dyma ei stori gariad hwy.

Mae Caerdydd ar ddiwedd y 1800au yn lle budr, poblog a llwyd ac mae Ellen, gweithiwr domestig, yn breuddwydio am ddianc o’i bywyd diflas yno am y môr.Pan fydd yn cwympo mewn cariad â Samuel, cogydd ar long o Barbados, mae hi’n gallu gwireddu ei ffantasi drwy redeg i ffwrdd gydag ef ar long.Mae bywyd ar y môr yn anodd a pheryglus, ond mae’n lle y gallant fod yn rhydd… nes bod amgylchiadau’n gorfodi Ellen i ddychwelyd adref, ac mae caledi bywyd dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.

Mewn partneriaeth â Cover to Cover

Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg