Y Gynhadledd Hunan-gyhoeddi yw’r unig ddigwyddiad sy’n canolbwyntio ar hunan-gyhoeddi yn y DU, gan gynnig cyfle i awduron ddysgu am ystod eang o opsiynau cyhoeddi, clywed gan y rhai sy’n gweithio yn y byd hunan-gyhoeddi a’u cwestiynu, ac i rhwydweithio â chyd-awduron, y mae llawer ohonynt eisoes yn hunan-gyhoeddwyr profiadol.

Nod y digwyddiad anffurfiol yw addysgu, hysbysu ac ysbrydoli awduron sy’n cyhoeddi eu gwaith eu hunain, neu sy’n ei ystyried fel llwybr i’w gyhoeddi.

Ceir manylion llawn siaradwyr a sesiynau’r gynhadledd ar y wefan, ynghyd â ffurflen gofrestru. Yn ogystal, rydym wedi sicrhau bod llawer o adnoddau ar gael o ddigwyddiadau blynyddoedd blaenorol yn ein canolfan adnoddau.