Cerrig Milltir 10 mlynedd

Cwblhaodd yr awdures leol Julie Brominicks y prosiect 10 mlynedd hwn yn 2022 pan gafodd ei llyfr ei ryddhau.

Ar y daith gerdded blwyddyn o hyd yn 2012, mi aeth heibio nifer o gerrig milltir drwy ei thaith gerdded ar hyd Gororau Cymru. Rydym yn edrych ar sut y gall pen-blwyddi a threigl amser fod yn fapiau ein dyfodol wrth i Cletwr ddathlu ei 10fed pen-blwydd eleni.

The Edge of Cymru yw’r stori am daith gerdded Julie Brominicks ar hyd ffin Cymru dros flwyddyn. Fel addysgwr roedd hi’n gwybod llawer am adnoddau naturiol y wlad. Ond fel mewnfudwr o Loegr a dysgwr Cymraeg, roedd hi eisiau gwybod mwy am ei hanes, am Gymru heddiw, a’i lle ynddi.

Mewn ymgais o ddarganfyddiad personol, mae naratif The Edge of Cymru hefyd yn ffordd adfywiol wahanol o edrych ar le, hunaniaeth, cof a pherthyn.