Mae’r gefeilliaid Ana a Nan ar goll ar ôl marwolaeth eu mam, awdur enwog a laddodd ei hun, yn ôl pob golwg, drwy neidio allan o ffenestr. Mae pawb yn gwybod pwy wthiodd Elena i ladd ei hun – ei beirniad llenyddol ers amser maith, Eben. Ond mae angen prawf ar y gefeilliaid os ydynt yn mynd i ddial.

Pan fydd Eben, sy’n daer am brofi nad yw ar fai, yn gofyn am gael gweld dyddiaduron Elena yn y Llyfrgell Genedlaethol lle mae’r gefeilliaid yn gweithio, gwelant gyfle. Drwy gynllunio gofalus ac ychydig o gymorth o’r tu allan, mae’r gefeilliaid yn cloi’r adeilad sydd fel labyrinth, gan gadw eu cydweithwyr, y cyhoedd ac, yn bwysicaf oll, Eben y tu mewn. Ond wrth i ddyn diogelwch ddechrau sbwylio’r cynllun a rhyddhau gwystlon, mae Ana, Nan ac Eben yn cael eu gwthio i’r dibyn. Ac mae’r hyn a ddechreuodd fel dial syml yn troi’n ymddatodiad cymhleth o deyrngarwch, cymhelliad a’r hyn sy’n ein gwneud ni y bobl rydym ni.

Wedi’i ysgrifennu’n hiraethus, gyda llais ffres, cyfareddol, mae The Library Suicides yn llyfr hynod gofiadwy a phryfoclyd i’r rhai sy’n dwlu ar nofelau cyffrous sy’n torri tir newydd, a llyfrau am lyfrau a chysyniad y gair ysgrifenedig.

Am yr awdur
Mae Fflur Dafydd yn nofelydd arobryn, yn ysgrifennwr sgriptiau ffilm ac yn gerddor, sy’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wedi cyhoeddi chwe nofel, un casgliad o straeon byrion ac wedi creu tua 50 awr o ddrama oriau brig i S4C a BBC iPlayer. Ysgrifennodd a chyd-gynhyrchodd y ffilm Y Llyfrgell/The Library Suicides, (BBC Films) yn seiliedig ar ei nofel, a enillodd nifer o wobrau yng ngwobrau BAFTA Cymru a Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin. Mae wedi cael ei henwebu ddwywaith am BAFTA Cymru ar gyfer yr ysgrifennwr sgriptiau ffilm gorau; ac mae ei gwobrau ffuglen yn cynnwys y Fedal Rhyddiaith (2006), Gwobr Goffa Daniel Owen (2009), Gwobr Awdur Newydd Gŵyl y Gelli Oxfam (2009), a Gwobr Big Read Cymru (2010). Enillodd hefyd Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau BBC Radio Cymru yn 2010. Graddiodd o raglen MA mewn Ysgrifennu Creadigol UEA, mae ganddi PhD o Brifysgol Bangor ar farddoniaeth R S Thomas, ac fe’i dewiswyd hefyd fel y cyfranogwr cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn Rhaglen Ysgrifennu Rhyngwladol fyd-enwog Prifysgol Iowa. O 2006 i 2016, roedd hi’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.