Tiwtoriaid / Lisa Blower & Niall Griffiths

Mae lle i bob llais mewn llenyddiaeth, ond bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut i sianelu eich llais unigryw chi eich hun mewn modd diffuant i adrodd stori.

Mae’r awduron arobryn Lisa Blower a Niall Griffiths  ill dau yn angerddol dros gynrychioli’r straeon a’r lleisiau o’u gorffennol eu hunain, gan ganolbwyntio ar leoliad, diwydiant, diwylliant a dosbarth cymdeithasol. Drwy weithdai grŵp a thiwtorialau un-i-un, bydd Lisa a Niall yn canolbwyntio ar ddathlu’r straeon hynny sydd yn ein diffinio ni, y sefyllfaoedd hynny yr ydym ni o bosib wedi gadael ar ein hôl, y llefydd sy’n ein cynrychioli ni. Sut allwn ni amlygu’r straeon hynny o’n profiadau ni ein hunain i greu gwaith sy’n dathlu ein gwreiddiau, y teimlad o berthyn, hunaniaeth? Sut allwn ni wneud y straeon hynny yn berthnasol i’n darllenwyr? Fyddwn ni dim yn cefnu rhag trafod gwleidyddiaeth hunaniaeth ar y cwrs hwn, gan edrych yn ddwfn mewn i’r hyn sy’n siapio’r cymunedau sy’n bwydo ein straeon.

Bydd yr wythnos hon yn llawn dop o syniadau creadigol, anogaeth i ysgrifennu, trafodaethau a gweithdai anffurfiol i’ch darparu chi â’r sgiliau sydd ei angen i barhau â’ch ysgrifennu ar ôl i’r cwrs orffen.