Ydych chi’n ystyried ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer cynulleidfa ifanc ond yn ansicr lle i ddechrau? Oes gennych chi gasgliad o gerddi yn barod ond ddim yn siwr ble i fynd â nhw nesaf? Ymunwch â’r awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn Alex Wharton am sesiwn fywiog, ryngweithiol a hwyliog ar y grefft o ysgrifennu barddoniaeth i blant. 

Dyma’r gweithdy cyntaf mewn cyfres o sesiynau blasu ar-lein rhad ac am ddim a gynigir fel rhan o raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru. Dysgwch fwy am Cynrychioli Cymru a sut i gyflwyno eich cais yma.  

Bydd y gweithdy’n cynnwys ymarferion ysgrifennu ac awgrymiadau creadigol, cyngor i feirdd newydd a chyfle i ofyn eich cwestiynau i un o feirdd plant mwyaf cyffrous Cymru. 

Rydych chi’n siwr o ddod allan o’r gweithdy yn llawn egni a syniadau newydd! 

Bydd aelodau o dîm Llenyddiaeth Cymru wrth law ar ddiwedd pob sesiwn i gynnig arweiniad ar y broses ymgeisio ac i ateb unrhyw gwestiwn gan ddarpar ymgeiswyr. 

Noder: Mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw ar gyfer y gweithdy hwn.  

Cofrestrwch yma.

 

Cwrdd â’r awdur: 

Mae Alex Wharton awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn i oedolion a phlant. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant Daydreams and Jellybeans restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, The North Somerset Teacher’s Book Award, a chafodd ei enwi fel argymhelliad darllen ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2022. 

Mae gwaith Alex wedi’i gyhoeddi’n eang yn y sector ac mae o wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Llenyddiaeth Prydain, Llyfrgelloedd Cymru a llawer o ysgolion, ymddiriedolaethau a digwyddiadau llenyddol gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl lyfrau Ryngwladol Caeredin. 

Yn 2021 comisiynwyd Alex gan Ŵyl y Gelli i greu cerdd gyda phlant a fyddai’n cael ei darllen i Dduges Cernyw mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Gelli Gandryll. Mi fydd Firefly Press yn cyhoeddi ei ail gasgliad o gerddi Poetry Hill ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei drydydd llyfr i blant.