Rhowch hwb i’ch ysgrifennu ffuglen drwy ymuno â’r awdures arobryn, Emma Smith-Barton ar gyfer gweithdy creadigol, addysgiadol a rhyngweithiol ar ysgrifennu ffuglen i oedolion ifanc. Dysgwch sut i ysgrifennu agoriad bachog i’ch stori a sut i greu a chyflwyno cymeriadau cofiadwy. 

Dyma’r ail weithdy mewn cyfres o sesiynau blasu ar-lein rhad ac am ddim a gynigir fel rhan o raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru. Dysgwch fwy am Cynrychioli Cymru a sut i gyflwyno eich cais yma.

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar ysgrifennu eich pennod gyntaf a bydd yn cynnwys ymarferion ysgrifennu ac awgrymiadau creadigol yn ogystal â chyngor i awduron newydd. 

Byddwch yn dod allan o’r gweithdy wedi’ch ysbrydoli, a gyda syniad cliriach o sut i fachu sylw eich darllenwyr ifanc o’r dudalen gyntaf oll. 

Bydd aelodau o dîm Llenyddiaeth Cymru wrth law ar ddiwedd pob sesiwn i gynnig arweiniad ar y broses ymgeisio ac i ateb unrhyw gwestiwn gan ddarpar ymgeiswyr. 

Noder: Mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw ar gyfer y gweithdy hwn.  

Cofrestrwch yma

 

Cwrdd â’r awdur: 

Ganed Emma Smith-Barton yn Ne Cymru i rieni Pacistanaidd. Mae tyfu i fyny rhwng diwylliannau wedi dylanwadu’n fawr ar ei hysgrifennu ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn archwilio themâu hunaniaeth a pherthyn. Cyn ysgrifennu, bu’n dysgu mewn ysgolion uwchradd am chwe mlynedd ac mae’n frwd dros godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Astudiodd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (BA) ym Mhrifysgol Warwick ac mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad, fel Mslexia a blodeugerdd Gwobr Stori Fer Bryste 2016 (o dan ei ffugenw ar gyfer ffuglen oedolion, Amna Khokher). Cyrhaeddodd The Million Pieces of Neena Gill (Penguin Random House, 2019), nofel gyntaf Emma i oedolion ifanc, restr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstones 2020; Gwobr Branford Boase 2020; a Nofel Rhamantaidd Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantaidd 2020.