Dewislen
English
Cysylltwch

Chwilio saer geiriau i fod y Bardd Cenedlaethol nesaf i Gymru

Cyhoeddwyd Iau 20 Ion 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Chwilio saer geiriau i fod y Bardd Cenedlaethol nesaf i Gymru
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn lansio’r cam cyntaf i benodi’r Bardd Cenedlaethol Cymru nesaf, trwy alw am enwebiadau am fardd talentog i ymgymryd â’r rôl ddifyr ac amlwg hon. 

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru adref a thramor. Mae’r prosiect yn cyflwyno barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog pobl i ddefnyddio eu lleisiau creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol. Dyma’r tro cyntaf y bydd y sefydliad yn penodi trwy alwad cyhoeddus am enwebiadau.  

Y Bardd Cenedlaethol cyfredol yw Ifor ap Glyn. Yn ystod ei gyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru mae Ifor wedi bod yn lysgennad diwylliannol i Gymru a’i llenyddiaeth, ac mae’r rôl wedi galluogi iddo deithio’r byd. Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos ar drafnidiaeth gyhoeddus ym Mrwsel a’i daflunio ar ochr Big Ben. Mae wedi ei gomisiynu i lunio cerddi a rhyddiaith i nodi achlysuron niferus yn ystod ei gyfnod yn y rôl, gan gynnwys nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan; Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019; 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru; heb sôn am nifer o achosion cymdeithasol, penblwyddi arbennig ac uchelfannau’r tîm pêl-droed cenedlaethol. 

“Rydyn ni’n wlad lle mae geiriau a thelynegiaeth yn mynd law yn llaw ac mae rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yn dyst i’r pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar iaith. Boed ar y dudalen neu ar y llwyfan, bu Ifor ap Glyn yn ein gwefreiddio a’n hysbrydoli drwy ei rôl, ond hefyd yn ymateb i’r byd o’n cwmpas a’i adlewyrchu, gan ein helpu i wneud synnwyr ohono.”  – Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford 

 

Daw cyfnod Ifor i ben ym mis Mai 2022, pan y bydd yn trosglwyddo’r awenau i bumed Bardd Cenedlaethol Cymru.  Mae gwahoddiad i feirdd enwebu eu hunain; a gall unigolion, sefydliadau, grwpiau ac elusennau enwebu eu hoff fardd ar gyfer y rôl.

Darllenwch ein Galwad am Enwebiadau yma.

 

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae beirdd ledled y byd yn chwarae rhag pwysig ym mywydau pobl, ac yn aml caent eu gwahodd i ddarllen eu gwaith i nodi digwyddiadau cenedlaethol arwyddocaol, i ddathlu ac i alaru. Mewn cyfnod o ansicrwydd a rhwygau byd-eang, mae barddoniaeth yn ein huno ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd.

Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn Fardd Cenedlaethol rhagorol i Gymru, a mawr yw ein diolch iddo am ei holl waith. Llongyfarchiadau gwresog iddo ar ei holl lwyddiannau, ac am wireddu ei weledigaeth uchelgeisiol.

Wrth i ni gychwyn ar bennod nesaf y prosiect arbennig hwn, edrychwn ymlaen at groesawu Bardd Cenedlaethol newydd i’r rôl i’n cynorthwyo ninnau i wireddu ein gweledigaeth ein hunain o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau.”

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn derbyn enwebiadau tan 14 Mawrth 2022.  Darllenwch ragor yma.