Galwad Agored: Encil Sgiliau Sgriptio
Dyddiadau’r cwrs: Dydd Llun 13 – dydd Gwener 17 Mehefin 2022
Tiwtoriaid: Branwen Davies ac Alice Eklund
Darllenwyr Gwadd: Sita Thomas ac Alistair Wilkinson
Dyddiad cau i ymgeisio: 5.00 pm dydd Llun 2 Mai
Ymunwch â Branwen Davies ag Alice Eklund, Rheolwr Llenyddol a Chydymaith Llenyddol adran lenyddol Theatr y Sherman, am encil i ddatblygu eich sgiliau sgriptio i’r llwyfan yn Nhŷ Newydd, canolfan ysgrifennu genedlaethol Llenyddiaeth Cymru. Bydd yr encil hon i ddramodwyr o Gymru yn cael ei chynnig yn rhad ac am ddim i ddeg awdur drwy broses ymgeisio. Byddwn yn edrych am ddramodwyr lled-newydd sydd â nodweddion sy’n cael eu tangynrychioli yn y byd llenyddiaeth a drama i ymuno â ni, ac yn benodol, byddwn yn edrych am awduron o liw ac/neu awduron anabl.
Beth fydd yn digwydd ar yr encil?
Yn ystod yr encil, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp i ddatblygu eich crefft. Byddwn yn edrych ar ddatblygu eich syniadau gwreiddiol, a’u gosod ym myd y ddrama. Byddwn yn edrych ar sut i greu cymeriadau a deialog credadwy, creu strwythur i gynnal y stori, ac yn archwilio – ac o bosib yn gwthio – ffiniau y ddrama lwyfan. Yn ystod yr wythnos, bydd pob awdur yn derbyn cyfarfod un-i-un gyda’r tiwtoriaid a gyda staff Llenyddiaeth Cymru i drafod eich datblygiad fel awdur.
Bydd cyfle i wrando ar arbenigwyr gwadd o gefndiroedd amrywiol yn siarad am eu profiadau ac yn cynnig cyngor, a byddwn yn darllen darnau o sgriptiau, yn rhannu gwaith ac yn gwylio clipiau o ddramâu perthnasol i roi cyd-destun i’n gwaith. Bydd digon o amser i ysgrifennu yn ogystal â mwynhau cwmni eich cyd-ddramodwyr, a datblygu rhwydwaith newydd o awduron yn awyrgylch groesawgar, gefnogol ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Bydd pawb yn cael eu hannog i gyrraedd gyda syniad bras, a byddwch yn gadael ar ddiwedd yr wythnos gyda thudalennau cyntaf eich drama – a chynllun strwythurol pendant i’w ddatblygu yn eich amser eich hun.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar ôl y cwrs, ac yn annog y rhwydwaith i gwrdd arlein yn achlysurol i rannu cynnydd a syniadau, ac i ddatrys problemau.
Bydd yr encil yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf, ond mae croeso mawr i ddramodwyr sydd yn awyddus i ddatblygu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg – does dim angen iaith na gramadeg perffaith! Mae’r tiwtoriaid yn ddwyieithog, ac felly bydd modd cynnal cyfarfodydd un-i-un drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae posibiliad i greu gwaith dwyieithog hefyd.
Mae’r cwrs hwn wedi ei greu yn arbennig i awduron a darpar awduron sydd yn cael eu tangynrychioli yn y byd theatr a llenyddiaeth yng Nghymru. Drwy ddarparu cyfle arbennig i awduron o liw, awduron sydd yn byw ag anableddau neu salwch, awduron LHTDC+, awduron sydd yn dod o gefndir incwm isel, neu awduron sy’n cael eu tangynrychioli mewn modd arall, y gobaith yw y bydd y profiadau bywyd yma yn cael gwell cynrychiolaeth yn y dyfodol – gan sicrhau fod ein theatr a’n llenyddiaeth yn berthnasol i bawb.
Y Tiwtoriaid
Mae Branwen Davies yn ddramodydd, dramatwrg a chyfarwyddwr sydd yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Hi yw Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman, ac mae’n arwain ar gyrsiau ysgrifennu a datblygu dramodwyr y theatr. Mae hi hefyd wedi gweithio fel darlithydd drama a pherfformio mewn sawl prifysgol yng Nghymru. Mae Branwen yn aelod o Dirty Protest ac yn un o sefydlwyr y cwmni theatr Os Nad Nawr. Mae Branwen wedi cydweithio gyda nifer o gwmnïau yng Nghymru gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Papertrail, Illumine, Cwmni’r Frân Wen, Dirty Protest, Blas Pontio, Theatr y Sherman a Criw Brwd.
Artist aml-gyfrwng o Gaerdydd yw Alice Eklund. Mae’n bennaf yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr a dramatwrg ar weithiau newydd gan fenywod ar gyfer dramâu a sioeau cerdd. Mae’n gweithio fel Cydymaith Llenyddol i Theatr y Sherman. Fel artist cwîar, dwyieithog sydd yn byw ag anabledd, mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu darnau sydd yn gwthio ffiniau theatr iaith Gymraeg. Dros y blynyddoedd, mae Alice wedi gweithio â nifer o gwmnïoedd yn cynnwys National Theatre Wales, Canolfan y Mileniwm, Theatr y Sherman, Theatre Uncut, Goodspeed a The Other Room. Alice yw sefydlydd BolSHE, grŵp creadigol a gaiff ei arwain gan fenywod, sydd yn dathlu a rhoi sylw i leisiau menywod creadigol Cymreig.
Guest Readers
Dr Sita Thomas yw Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Fio. Mae hi’n un o Gymdeithion Creadigol Canolfan y Mileniwm, yn Artist Cyswllt gyda’r National Youth Theatre ac yn Gyfarwyddwr i Headlong Origins. Mae ei gwaith cyfarwyddo’n cynnwys Coventry Embraces, cynhyrchiad safle-benodol enfawr fel rhan o The Walk with Little Amal gyda chwmni Good Chance; Go Tell The Bees, ffilm a grëwyd ar y cyd â’r gymuned am Sir Benfro i National Theatre Wales; Press Play Here, ffilmiau byrion i’r Theatre Royal Stratford East; a Under The Mask, drama sain i’r Gwasanaeth Iechyd gyda Tamasha a’r Oxford Playhouse. Mae gan Sita PhD o Brifysgol Warwick a Gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Symudiad o’r Royal Central School of Speech and Drama. Mae Sita hefyd yn cyflwyno ar raglen milkshake! Channel 5.
Mae Alistair Wilkinson yn artist cwîar, dosbarth gweithiol, anabl sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith. Buont yn hyfforddi yn y Royal Central School of Speech and Drama, cyn iddynt raddio ag MA yn RADA/Birkbeck, a buont yn cymryd rhan yn Invitation Writers Group y Royal Court. Maent wedi creu gwaith i’r BBC, Sky Arts, The National Theatre (Lloegr), Canolfan y Barbican, Neuadd Dref Shoreditch, Theatr Arcola a Curious Monkey a sawl sefydliad arall. Mae gwaith Alistair yn canolbwyntio ar themâu yn cynnwys galar, salwch, agosatrwydd a meddwdod. Yn gyn-Bennaeth Datblygu Artistig yn yr Old Vic, maent bellach yn arwain ar ddatblygu talent i Punchdrunk. Maent yn Artist Cyswllt i’r National Youth Theatre ac i RTYDS, yn Ymddiriedolwr i Boundless, ac yn ddarllenydd sgript i’r Bush Theatre, Theatre Uncut, ac i’r Papatango Prize. Alistair yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Creadigol WoLab.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Os gwelwch yn dda, islwythwch y ddogfen Cwestiynau Cyffredin isod i ddarllen mwy am y cwrs. Yna, i ymgeisio, llenwch y Ffurflen Gais yma. Yn ogystal â gofyn am eich manylion personol, bydd y ffurflen yn gofyn i chi esbonio pam eich bod eisiau ymgeisio, ac yn gofyn i chi ddarparu enghraifft o waith sgript – neu syniad am sgript.
Mae fersiynau print bras a fersiwn dyslecsia-gyfeillgar ar gael i’w lawrlwytho isod.
Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr i gyd cyn dydd Gwener 13 Mai.