Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Enillwyr Categori Plant a Phobl Ifanc a Chategori Ffuglen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Cyhoeddwyd Gwe 31 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Enillwyr Categori Plant a Phobl Ifanc a Chategori Ffuglen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Heddiw fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Elidir Jones sy’n cipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni, gydag Yr Horwth (Atebol Cyf) ac mai Ifan Morgan Jones sy’n cipio’r categori Ffuglen, gyda Babel (Y Lolfa).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw. Cyflwynwyd y darllediad arbennig gan Nia Roberts am 12.30 pm brynhawn Gwener 30 Gorffennaf, yng nghwmni Siôn Tomos Owen a Casi Wyn, ar ran y panel beirniadu, a’r enillwyr eu hunain.

Mae’r ddau yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae’r ddau hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 12.30 – 1.00 pm yfory, ddydd Sadwrn 1 Awst.

Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur. Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth. Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Yn 2019, cyhoeddwyd ei ail nofel, Yr Horwth, a’r nofel graffeg i blant Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, y ddau wedi eu dylunio gan Huw Aaron. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd Peff, ei addasiad o Fing gan David Walliams. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a thair cyfres o Cynefin. Mae hefyd yn brif ymchwilydd ar y rhaglen drafod I Was There ar BBC Radio Wales. Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac mae’n un o sylfaenwyr y wefan fideowyth.com.

Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous yw Babel, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae’n adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2008. Ef sy’n gyfrifol am wefan newyddion annibynnol nation.cymru.

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a’r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru. Rydym yn falch iawn i ddathlu llwyddiannau llenyddol ein hawduron hynod dalentog, ac mae’r Wobr hon yn fodd o wneud hyn yn  flynyddol. Braf iawn oedd cynnwys categori newydd sbon eleni, gan gydnabod bri llenyddiaeth plant a phobl ifanc ochr yn ochr â llenyddiaeth ar gyfer oedolion. Mae Elidir ac Ifan yn enillwyr teilwng iawn, a llongyfarchiadau gwresog i’r ddau ohonynt.”

Mae Elidir ac Ifan yn ymuno â Caryl Bryn ac Alan Llwyd ar y rhestr isod:

  • Barddoniaeth: Caryl Bryn, Hwn ydy’r llais, tybad? (Cyhoeddiadau’r Stamp)
  • Ffeithiol Greadigol: Alan Llwyd, Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas)
  • Plant a Phobl Ifanc: Elidir Jones, Chwedlau’r Copa Coch: Yr Horwth (Atebol Cyf)
  • Ffuglen: Ifan Morgan Jones, Babel (Y Lolfa)

Caiff enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a’r Prif Enillydd eu cyhoeddi ar ddydd Sadwrn 1 Awst rhwng 12.30 – 1.00 pm. Cyhoeddir yr holl enillwyr Saesneg ar BBC Radio Wales heno (nos Wener 31 Gorffennaf) rhwng 6.00 – 7.00 pm.

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn