Dewislen
English
Cysylltwch

Dathlu Diwrnod y Llyfr 2022

Cyhoeddwyd Iau 3 Maw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dathlu Diwrnod y Llyfr 2022
Heddiw, dydd Iau 3 Mawrth 2022, rydym yn dathlu Diwrnod y Llyfr, a phen-blwydd yr ymgyrch yn 25 oed.

Mae Diwrnod y Llyfr yn newid bywydau trwy annog cariad at lyfrau a darllen ar y cyd, a chynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc gael llyfr ei hun. Wedi’i ddynodi gan UNESCO yn ddathliad byd-eang o lyfrau a darllen, mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu mewn dros 100 o wledydd ledled y byd. Darllen er pleser yw’r dangosydd mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol – yn fwy felly nag amgylchiadau ei deulu, cefndir addysgol ei rieni neu eu hincwm. Mae’r diwrnod hwn yn chwarae rhan allweddol yn annog mwy o blant, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddatblygu arfer gydol oes o ddarllen er pleser.

Eleni, mae uchafbwyntiau ymgyrch Diwrnod y Llyfr yng Nghymru yn cynnwys:

  • Llyfr £1 newydd yn Gymraeg gan yr awdur, y bardd a’r seren teledu plant nodedig Anni Llŷn – Lledrith yn y Llyfrgell (Y Lolfa)
  • Adnoddau hwyliog a lliwgar yn llawn syniadau am sut i ddathlu gyda pharti wedi’i ysbrydoli gan ddarllen i nodi dathliadau’r pen-blwydd yn 25 oed
  • Cystadleuaeth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Llyfrau Cymru i ennill pentwr o 25 llyfr
  • Cystadleuaeth noddedig ar Awr Fawr Cyw (S4C) i annog plant ac ysgolion i anfon lluniau o’u dathliadau a’u gwisgoedd Diwrnod y Llyfr. Mae’r gwobrau’n cynnwys ymweliad ysgol gan am ddim gan Bardd Plant Cymru, Casi Wyn.

Er mwyn ei gwneud yn hawdd i bawb gymryd rhan yn Niwrnod y Llyfr 2022 ac i annog dathliad o ddarllen, bydd cyfres o adnoddau ar-lein hefyd ar gael ar wefan Diwrnod y Llyfr, gan gynnwys taflenni gweithgaredd a chanllawiau trafod i athrawon, rhieni a gofalwyr.

Yn ogystal, mae’r Cyngor Llyfrau yn annog pobl i fynd draw i’w siop lyfrau neu lyfrgell leol i ddarganfod pa lyfrau sy’n cydio yn eu dychymyg. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar y diwrnod ei hun, a chyn hynny hefyd, gan gynnwys ymgyrch You Are A Reader ar y cyfryngau cymdeithasol, lle bydd awduron gwaddol Diwrnod y Llyfr, dylanwadwyr a thalentau o fydoedd teledu, ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth yn rhannu eu hoff straeon ac yn annog plant a’u teuluoedd i ymgolli mewn llyfrau a mwynhau darllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.

Wrth i ni ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni, mae’n braf gweld bod nifer o ddigwyddiadau yn medru mynd yn eu blaen ar ôl cyfnod hir o ohirio o ganlyniad i’r Coronafeirws. Yn ddiweddar, mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Rhestr Awduron Cymru a’i Gronfa Ysbrydoli Cymunedau. Nod Llenyddiaeth Cymru yw ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Mae Rhestr Awduron Cymru yn cyflawni’r holl amcanion hyn trwy gynnig gwasanaeth newydd i awduron yn ogystal â chynulleidfaoedd a darllenwyr creadigol o Gymru a thu hwnt. Yn yr un modd, mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn cyfrannu tuag at ein gweledigaeth o greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth, a hynny rwy gynnig nawdd tuag at ffioedd awduron er mwyn cynnal sesiynau llenyddol i danio dychymyg cynulleidfaoedd ar draws Cymru. Draw ar ein gwefan, mae’r adran Digwyddiadau yn cynnwys llu o ddigwyddiadau llenyddol ar draws Cymru  – o lansiadau llyfr, i weithdai ysgrifennu creadigol. Ewch draw i gael golwg ar yr hyn sydd yn digwydd arlein neu yn eich ardal chi i nodi Diwrnod y Llyfr eleni.

Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi ein rhaglen o gyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2022, sydd yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer awduron profiadol, ac awduron newydd. Mae’r rhaglen lawn ar gael yma, ac yn ogystal â cyrsiau wythnos neu ddiwrnod o hyd, mae dewis hefyd yn o sesiynau blasu arlein dros yr wythnosau nesaf. Os ydych chi awydd mynd ati i ddechrau ar eich llyfr eich hun, neu ddatblygu gwaith ar y gweill – ewch amdani ac archebwch le ar un o’n cyrsiau.