Dewislen
English
Cysylltwch

Gwahoddiad am Fynegiadau o Ddiddordeb i Gynhyrchu Fideo

Cyhoeddwyd Mer 16 Chw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwahoddiad am Fynegiadau o Ddiddordeb i Gynhyrchu Fideo
Gwahoddiad am Fynegiadau o Ddiddordeb i Gynhyrchu Fideo yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer dathliad digidol o raglen datblygu awduron

 

Cefndir:

Lansiwyd ein rhaglen datblygu awduron, Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw ym mis Ebrill 2021. Mae’r rhaglen yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad trwy fynd i’r afael a rhwystrau hanesyddol a phresennol yn y sector.

Nod hirdymor y cynllun yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru wastad ei chyflenwad o unigolion talentog a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Ail-lansiwyd y cynllun yn hydref 2021 gyda ffocws ar awduron o gefndiroedd incwm isel. Bydd yr awduron a gaiff eu dethol i fod yn rhan o’r ail rownd yn dechrau’r rhaglen ym mis Ebrill 2022. Mi fydd rownd gyntaf y rhaglen yn dod i ben ym mis Mawrth 2022, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r awduron wedi elwa o gymorth ariannol a mentora, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a mynychu dosbarthiadau meistr yng ngofal comisiynwyr ac awduron profiadol.

Caiff y cynllun ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Caiff ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.

 

Gofynion:

Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i ddod i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yn ystod cwrs ysgrifennu penwythnos wedi ei drefnu fel rhan o’r rhaglen er mwyn darparu gwasanaeth cynhyrchu fideo a ffotograffiaeth.

Nod y fideo bydd dathlu’r effaith gadarnhaol mae rhaglen Cynrychioli Cymru wedi ei gael ar yr awduron yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd disgwyl i chi lunio cynnwys, ffilmio, sain, golygu, graffeg symudol ac isdeitlau (darperir y testun a’r cyfieithiad gan Llenyddiaeth Cymru).

 

Briff fideo:

Rydym yn gofyn am un fideo, heb fod dros 4 munud o hyd, gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg lle’n berthnasol.

Noder: mi fydd y mwyafrif o’r awduron yn mynegi eu hunain yn Saesneg gydag ambell i un yn siarad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd angen i’r fideo gynnwys cyfweliadau grŵp anffurfiol gyda’r awduron lle maent yn trafod eu profiadau ac eu datblygiad creadigol a phroffesiynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd hefyd angen ffilmio rhai o’r awduron yn darllen peth o’u gwaith creadigol a chynnwys tameidiau o’r cynnwys creadigol hwn drwy gydol y fideo. Os yn bosib, hoffem graffeg symudol i gyd-fynd â’r gwaith maent yn ei ddarllen.

Dylai orffen gyda sleidiau yn cynnwys gwybodaeth am y prosiect a logo Llenyddiaeth Cymru a logo ein arianwyr.

 

Briff Ffotograffiaeth:

Rydym yn gofyn i chi fod yn bresennol am ran o weithdy ysgrifennu creadigol wedi ei drefnu fel rhan o’r rhaglen er mwyn cymryd lluniau o’r awduron yn ysgrifennu, creu a thrafod.

 

Ffi:

Ar gyfer y gwaith amlinellir yma, rydym yn cynnig ffi o £2,000 sydd yn cynnwys cyfraniad tuag at treuliau teithio. Noder os gwelwch yn dda fod TAW yn gynwysedig yn y ffi.

 

Amserlen:

Dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o ddiddordeb:        2 Mawrth

Cyfarfod gyda Llenyddiaeth Cymru i drafod cynnwys:  7 Mawrth

Ffilmio yn Nhŷ Newydd:       19 Mawrth

Golygu a chynhyrchu:         19 Mawrth– 18 Ebrill

Cyflwyno drafft 1af: 18 Ebrill

Llenyddiaeth Cymru i roi adborth a sylwadau:   22 Ebrill

Isdeitlo:          2 Mai – 6 Mai

Cyflwyno’r darnau gorffenedig i Llenyddiaeth Cymru:  6 Mai

 

Mynegi Diddordeb:

Cysylltwch â gwasg@llenyddiaethcymru.org i fynegi eich diddordeb erbyn dydd Mercher 2 Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda darperwch esiamplau o’ch gwaith yn eich mynegiant.