Dewislen
English
Cysylltwch

Just So You Know: Essays of Experience – Lansio Arlein

Cyhoeddwyd Iau 11 Meh 2020 - Gan Parthian Books
Just So You Know: Essays of Experience – Lansio Arlein
Mae Parthian Books yn falch o gyhoeddi y byddent yn lansio casgliad o draethodau gan leisiau sydd wedi eu tangynrychioli, Just so You KnowEssays of Experiencear y 30 Gorffennaf 2020, mewn digwyddiad ar-lein. 

 

Bydd y digwyddiad ar gael i’w wylio ar alw ar wefan Parthian wedi’r dyddiad uchod. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cipolwg unigryw o’r prosiect cyffrous, darlleniadau gan gyfranwyr, a sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r golygyddion Hanan IssaDurre Shahwar ac Özgür UyanıkMae’r tocynnau am ddim ac ar gael nawr yma drwy Eventbrite. 

Fe archwilia Just So You Know bynciau unigryw a chyfareddol o arae helaeth o safbwyntiau difyr fel hunaniaeth, dilead treftadaeth, iaith a diwylliant, y profiad o fewnfudo, yn ogystal â’r syniad dyrys o’r arall gan awduron BAME, LGBTQ+, niwro-amrywiol ac anabl, sy’n herio delfrydau niwro-nodweddiadol a hetero-normadol – sydd oll yn faterion nad sy’n cael eu trafod yn aml o safbwynt Cymreig. 

‘Yn y tudalennau hyn y mae straeon, materion, a bywydau sydd yn rhy aml wedi eu rhoi i’r neilltu yn cael llwyfan. Yma y ceir ysgrifen sydd wedi ei lunio’n ofalus, ac sy’n gyson ymwrthod â’r temtasiwn i symleiddio a thacluso pynciau anodd. Mae Cymru yno drwyddi draw – fel adref, fel man cyrraedd, ac fel man gadael – ond fe heria’r holl naratif personol yma i ni feddwl o’r newydd.’ 

Darren Chetty, Cyfrannydd, The Good Immigrant 

Ceir gyfraniadau yn Just so You Know gan: Isabel Adonis, Kate Cleaver, Taylor Edmonds, Dylan Huw, Ruqaya Izzidien, Bethan Jones-Arthur, Derwen Morfayel, Grug Muse, Dafydd C ReevesRanjit SaimbiNasia Sarwar-SkuseRicky Stevenson, Kandace Siobhan Walker, Josh Weeks, Sarah Younan.  

Cafodd Parthian ei sefydlu’n 1993 gan Richard Davies, Gillian Griffiths a Ravi Pawar. Mae’r tri yn dal gyda’r cwmni, a Ravi Pawar yw cadeirydd y bwrdd. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn cyhoeddi nofel gyntaf Richard Lewis Davies, Sex and Rugbyond fe ddatblygodd yn gyflym i fod yn un o gyhoeddwr annibynnol blaenllaw Cymru â chanolbwynt ar awduron Cymreig yn gweithio yn y Saesneg tra hefyd yn hel amrywiaeth o leisiau o bob math o ieithoedd a diwylliannau. Derbyniodd Parthian wobr agoriadol Cyhoeddwr Bychan y Flwyddyn Cymru gan y Bookseller  

Caiff Just so You KnowEssays of Experience ei gyhoeddi yn y DU ar Sadwrn 1 Awst 2020.  

*Rhannir yr erthygl uchod ar ran Parthian Books 

 

 

 

 

Literature Wales