Dewislen
English
Cysylltwch

Marvin Thompson, Emily Dafydd-Drew ac Emma Sweenie yn ymuno â thîm Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Gwe 26 Tach 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o groesawu tri aelod newydd o staff i’r tîm, gan ychwanegu at weithlu bywiog ac ymroddgar.

Fel Arweinydd Creadigol, mae Marvin Thompson yn ymuno â Thîm Creadigol y sefydliad mewn rôl sy’n cyfuno arweiniad artistig cyffrous gyda throsolwg sefydliadol. Fel rhan o’r rôl, bydd Marvin yn aelod o’n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac yn chwarae rhan allweddol wrth bennu cyfeiriad strategol Llenyddiaeth Cymru.

 

Dywedodd Marvin: “Pe na byddai fy mhartner wedi tynnu fy sylw at hysbyseb y swydd hon, ni fuaswn i wedi cael cynnig fy swydd ddelfrydol: Arweinydd Creadigol gyda Llenyddiaeth Cymru. Yn fy rôl newydd, byddaf yn ymdrechu i sicrhau fod diwylliant llenyddol Cymru yn amrywiol. Bydd hyn yn arwain at Gymru sy’n fwy empathig a lle bydd grwpiau sydd – yn draddodiadol – wedi eu gadael ar ôl yn gallu adrodd eu straeon ar y llwyfannau mwyaf godidog.

Mawr yw fy niolch i’m rhieni – cenhedlaeth y Windrush – am fy ysbrydoli a’m llenwi ag uchelgais a phenderfyniad. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’m cydweithwyr newydd ar y prosiectau niferus sydd ganddynt ar droed, gan ychwanegu fy mhrofiadau personol i’r arbenigedd sydd eisoes wedi gwreiddio yn Llenyddiaeth Cymru.”

 

Bydd Emily Dafydd-Drew hefyd yn ymuno â’n Tîm Creadigol yn ei rôl fel Cydlynydd Creadigol. Bydd Emily yn arwain ar gyflawni prosiectau allweddol gyda’r nod o ysbrydoli a meithrin cenhedlaeth newydd o awduron, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd trwy lenyddiaeth. Bydd y rôl hon hefyd yn hanfodol i gyflawni ein blaenoriaeth barhaus i wella Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn y sector, ochr yn ochr â chynyddu ein hymrwymiad i’r Argyfwng Hinsawdd.

 

Dywedodd Emily: “Gan fod gen i ddiddordeb mewn llenyddiaeth, dechreuais ddilyn Llenyddiaeth Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol pan symudais i Gymru. Bum i’n gweithio ar brosiectau yn y sector elusennol, yna pan welais i’r swydd hon yn cael ei hysbysebu, meddyliais fod yma gyfle euraidd i gyfuno fy niddordeb gyda fy ngyrfa. Hyd yma, rwyf wedi mwynhau’r pwyslais ar gydweithio o fewn y sefydliad, ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu a chreu rhagor o gyfleoedd i awduron yng Nghymru trwy gynrychioli a dathlu’r lleisiau a’r straeon sydd eto i’w clywed.”

 

Mae Emma Sweenie yn ymuno â Llenyddiaeth Cymru fel Cefnogaeth Cyllid trwy gynllun prentisiaeth Llywidraeth Cymru. Mae Emma yn cefnogi gweithgaredd ariannol y sefydliad ac yn helpu cydweithwyr i sicrhau cywirdeb wrth gyllidebu a rheoli cyfrifon. Fel rhan o’i rôl, mae Emma yn derbyn hyfforddiant a chymhwyster Cyfrifeg Lefel 2 gan yr AAT, wedi’i gyllidebu’n llawn.

 

Mae ein staff yn meddu ar ystod eang o sgiliau, gwybodaeth, cefndiroedd a phrofiadau, ac rydym yn falch iawn o weld ein haelodau newydd yn ehangu’r ystod hwn hyd yn oed pellach. I ddarganfod rhagor am dîm Llenyddiaeth Cymru, ewch draw i’r adran Ein Tîm ar ein gwefan.