Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect Gwaith Comisiwn i Awduron yn arwain at flodeugerdd o ysgrifennu creadigol gan fenywod sy’n byw gyda chanser

Cyhoeddwyd Llu 6 Chw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect Gwaith Comisiwn i Awduron yn arwain at flodeugerdd o ysgrifennu creadigol gan fenywod sy’n byw gyda chanser
Seren Haf Grime

Yn ystod 2022, bu’r awdur Seren Haf Grime yn gweithio gyda Gofal Hosbis Dewi Sant i gyflwyno prosiect ysgrifennu creadigol i fenywod o dan 50 oed sy’n byw gyda chanser eilaidd, gan eu helpu i rannu eu profiadau trwy ysgrifennu creadigol. Roedd y prosiect yn un o gyfres o Gomisiynau Awduron a ddyfeisiwyd ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. 

Mae merched iau sy’n byw gyda chanser yn aml yn jyglo teuluoedd ifanc, yn gofalu am eu cartrefi a’u perthnasau tra’n cael cemotherapi a thriniaethau cynnal a chadw parhaus ar gyfer eu cyflwr. Yn aml maen nhw wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gyrfa, dros dro neu hyd yn oed yn barhaol, oherwydd effeithiau corfforol neu seicolegol canser, ac yna i gydymffurfio â’r gofyniad i warchod yn ystod y pandemig. 

Roedd y prosiect yn cynnig gweithdai chwe mis fel cyfle i archwilio themâu cyffredin trwy eiriau. Roedd gan bawb a gymerodd ran lais, yn cael eu clywed ac wedi ysgrifennu rhywbeth yn ystod pob sesiwn. Wedi hynny, dywedodd y cyfranogwyr bod ganddynt fwy o hunanhyder a llai o ymdeimlad o unigedd. 

Bellach gellir darllen y darnau a gasglwyd yn y flodeugerdd Staying Alive: A Book of Hope, a lansiwyd ddydd Gwener 3 Chwefror 2023 yn Hosbis Dewi Sant, Casnewydd.  Mae’r llyfr ar gael ar Issuu:

 

“Fe wnaeth Seren strwythuro ein cyfarfodydd grŵp dros gyfnod o chwe mis, trwy ddod â barddoniaeth, caneuon a delweddau perthnasol unigryw yn gysylltiedig â’r tymhorau a aeth heibio. Cefais fy synnu gan y cerddi a gynhyrchais a sut yr esblygodd a thyfodd fy hyder i rannu fy ngwaith.” (Rachel, cyfranogwr) 

  

Wrth fyfyrio ar y prosiect, dywedodd Seren: “Mae wedi bod yn bwysig iawn i mi allu dangos pa mor effeithiol a phwerus y gall y math hwn o ymyrraeth fod ar gyfer merched iau sy’n byw gyda chanser. Mae’r canlyniadau yn amlwg yn fuddiol ac yn rhoi llwyfan ar gyfer cyfleoedd pellach posibl i eraill. 

“Rydym yn gobeithio sicrhau bod y llyfr ar gael i gleifion canser ar adeg diagnosis i roi gobaith iddynt, i berthnasau pobl sy’n byw gyda chanser i’w helpu i ddeall, i bobl iau sy’n byw gyda chanser i sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain ac i reolwyr a chomisiynwyr gwasanaethau canser yn y GIG a’r trydydd sector i dynnu sylw at fudd ysgrifennu creadigol.” 

Am fwy o wybodaeth am ein Gwaith Comisiwn i Awduron, ewch i dudalen y prosiect yma.