Dewislen
English
Cysylltwch

Ymunwch â’n Sgyrsiau Creadigol: Cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus i awduron ac arweinwyr gweithdai

Cyhoeddwyd Maw 1 Chw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ymunwch â’n Sgyrsiau Creadigol: Cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus  i awduron ac arweinwyr gweithdai
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen newydd sbon o ddigwyddiadau rhad ac am ddim sydd wedi eu trefnu gyda’r nod o ysbrydoli a rhannu gwybodaeth gydag awduron Cymru.

Mae Sgyrsiau Creadigol yn gyfres o chwe digwyddiad byr sy’n cynnig cyfleoedd agored a hygyrch i ddysgu rhagor am ddefnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cyfranogi. Maent hefyd yn gyfle i gwrdd ag awduron o’r un anian, cyfnewid syniadau, rhannu arfer da, adnoddau a chysylltiadau, a mwynhau sgyrsiau creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu o ganlyniad i sesiynau adborth ac ymgynghori a gynhaliwyd ag awduron ledled Cymru yn 2021.  

Mae ymwneud â gweithgareddau celfyddydol, gan gynnwys darllen ac ysgrifennu creadigol, yn gwella llesiant pobl, yn gorfforol a meddyliol ill dau.  Mae’n gallu helpu pobl i ddygymod yn well â straen, yn ogystal â gwella llesiant cyffredinol pobl a lleddfu gorbryder ac unigrwydd.  Mae hefyd yn gallu gwneud pobl yn hapusach a rhoi hwb i’w hunanhyder, ynghyd â chyfrannu at greu cymunedau mwy cysylltiedig a chydlynus. Ein nod gyda phob un o’r Sgyrsiau Creadigol yw adeiladu’r sgiliau a chynyddu’r hyder sydd ei angen i redeg gweithdai cyfranogi sy’n defnyddio gweithgareddau llenyddol i wneud newid cadarnhaol i lesiant cyfranogwyr. Mae’r rhaglen hefyd â’r nod o gyfrannu at adeiladu rhwydwaith gefnogol o awduron yng Nghymru sydd un ai’n gweithio yn y gymuned yn barod neu sydd â diddordeb yn y maes hwn. 

Bydd pob sesiwn 90 munud o hyd yn rhad ac am ddim. Mae lleoedd yn gyfyngedig i 20 ar gyfer pob digwyddiad, er mwyn sicrhau fod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn y sgyrsiau. Cynhelir pob digwyddiad dros Zoom, gydag is-deitlau byw ac/neu BSL ar gyfer cyfranwyr Byddar/trwm eu clyw mewn rhai sesiynau. Lle mae hynny’n bosib, gallwn gwrdd ag anghenion mynediad ychwanegol – cysylltwch â ni i drafod unrhyw anghenion ymlaen llaw.  

Manylion y Rhaglen 

  • Bydd y rheiny sydd â diddordeb defnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cymunedol gyda’r nod o wella iechyd a llesiant yn elwa o arbenigedd yr arweinwyr gweithdai profiadol Mel Perry a Kerry Steed. Byddant yn arwain sesiwn i ddysgu, rhannu, a meithrin sgiliau ymarferol. 
  • Bydd Iola Ynyr a Mari Elen Jones yn rhannu’r hyn maent wedi ei ganfod a’i ddysgu o’u prosiect llwyddiannus Ar y Dibyn, prosiect sy’n cynnig cyfle i unigolion sydd wedi profi dibyniaeth ddod at ei gilydd i rannu eu straeon a’u teimladau mewn modd creadigol trwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Gallwch ddysgu am greu gweithdai ar-lein cynhwysol gyda Kittie Belltree a Sara Beer. Byddant yn rhannu rhai awgrymiadau ymarferol i unrhyw un sy’n rhedeg gweithdai ysgrifennu ar-lein ar sut i wneud gweithdai mor hygyrch a chroesawgar â phosib i gyfranogwyr niwroamrywiol.
  • Ymunwch â Connor Allen, Children’s Laureate Wales 2021-23 am drafodaeth ar sut i ddatblygu a chyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol cynhwysol i blant a phobl ifanc sydd â gwerthoedd gwrth-hiliaeth. 
  • Bydd Siw Jones yn arwain sesiwn yn y Gymraeg ar sut y gellid ail-gyflwyno’r grefft o gynganeddu mewn ysgolion. 
  • Bydd Ellie Carr, o sefydliad The Reader, yn cynnal sesiwn ar fuddion rhaglenni cyd-ddarllen a gweithio gyda gwirfoddolwyr i gefnogi cymuned o ddarllenwyr. 

I ddarganfod mwy am bob sesiwn a’r tiwtoriaid talentog, cliciwch yma.  

Gallwch hefyd archebu eich lle heddiw. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael am bob sesiwn, felly archebwch yn gynnar fel na chewch eich siomi. Gallwch archebu trwy Tocyn.  

Os oes gyda chi gwestiynau am y rhaglen hon cyn archebu eich lle, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org