Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r cyfle hwn ar gyfer awduron o Gymru dros 18 oed sy’n Fyddar a/neu’n Anabl a/neu’n Niwroamrywiol yn ôl y *model cymdeithasol o anabledd. 

*Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu nam neu wahaniaeth. 

Rydym yn croesawu cais gennych chi os ydych chi’n awdur ar gychwyn eich gyrfa sy’n gobeithio datblygu eich sgiliau ysgrifennu, neu yn awdur mwy profiadol sydd â’r bwriad o ailddyfeisio’ch prif gymeriadau. Mae’r cwrs yn berthnasol i awduron o bob genre, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol a sgriptio. 

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu’n bennaf yn Gymraeg. Bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn ei ddysgu ar y cwrs yn berthnasol i ysgrifennu creadigol ym mhob iaith. Ar gyfer ysgrifenwyr Byddar, byddwn yn trafod eich anghenion mynediad, ac yn sicrhau y bydd dehongliad BSL yn bresennol, neu wasanaeth capsiwn byw ar gael – yn dibynnu ar eich dewis. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl