Dewislen
English
Cysylltwch

Gwledda

Cyhoeddwyd Llu 6 Chw 2023 - Gan Iola Ynyr
Gwledda
Ffotgraffiaeth Lindsay Walker

Trwy greadigrwydd a llenyddiaeth, gall cymunedau addysgu, archwilio, a herio ei gilydd; cymryd perchnogaeth o’u eco-systemau lleol a gweithio tuag at gymunedau iachach a gwydn gyda bywyd gwyllt sy’n ffynnu. Mae ein prosiectau peilot Llên mewn Lle yn cefnogi’r artist a’u cymuned i berchnogi eu gofodau eu hunain, a chryfhau eu cyswllt â natur a’u hunain. Yma, mae Iola Ynyr yn sôn am ei phrofiad yn ei 6 mis cyntaf o redeg un o’r prosiectau hynny, Gwledda

***

Mae arwain cynllun Gwledda, sydd wedi ei ariannu drwy bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru yn brofiad braf. Mae’r sesiynau ysgrifennu creadigol wedi eu lleoli yn Rhosgadfan, ar dir yr ysgol, ac yn ystyried sut y gallwn ni dderbyn maeth gan fyd natur i gynnal ein llesiant a lleihau newid hinsawdd.

Mae gen i berthynas arbennig hefo’r ysgol wedi cydweithio hefo nhw fel rhan o ffilm Ynys Blastig ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sef ‘Blotdeuwedd’ a ddangoswyd i gynrychioli gweledigaeth pobl ifanc Cymru yn COP26. Yn dilyn hynny, mi dderbyniais i breswyldod gan yr ysgol am flwyddyn i annog creadigrwydd y disgyblion ac mi gynhaliais i ambell i sesiwn hefo’r rhieni. Y bwriad oedd rhoi blas ar y math o dasgau roedd y disgyblion yn eu cyflawni ond yr hyn ddaeth i’r amlwg oedd sut oedd y rhieni eu hunain yn awchu am gyfle i fynegi eu creadigrwydd mewn gofod diogel.

Bellach, mae yna chwech o gyfranogwyr yn mynychu’r sesiynau, yn ddibynnol ar alwadau bywyd a heriau o ran iechyd a phwysau gwaith. Er mai dim ond tri sesiwn sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, mae yna ymdeimlad cryf o gymuned o fewn y grŵp. Does yna ddim swildod wrth gyflawni’r tasgau, dim ond brwdfrydedd i greu a chwarae hefo geiriau.

Dwi’n gallu uniaethu’n llwyr hefo heriau rhai o’r cyfranogwyr o ran eu iechyd meddwl wedi i mi wynebu cyfnod o chwalfa yn fy mywyd wedi i fy alcoholiaeth ddod i’r wyneb. Roedd o’n gyfnod tywyll o ran fy iechyd corfforol a meddyliol ond gyda chefnogaeth broffesiynol a chynllun adferiad 12-cam, mi ges i gyfle i dorri cwys newydd yn fy mywyd.

Y gwaith proffesiynol a chreadigol cyntaf wedi’r cyfnod anodd hwn, mwy nag ambell ddiwrnod yma ac acw , oedd hefo Llenyddiaeth Cymru yn datblygu Ar y Dibyn neu Sgwennu ar y Dibyn fel yr oedd o ar y pryd; prosiect mewn partneriaeth hefo Theatr Genedlaethol Cymru a Galeri i gynnig gweithdai ysgrifennu creadigol i unigolion oedd yn byw hefo dibyniaeth. Bellach, ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, mae’r cynllun hwn yn gweithredu yn genedlaethol ac yn creu darnau celfyddydol trawiadol ac o safon sydd yn datgan hawl pob unigolyn, waeth pa mor fregus, i fynegi eu hunain yn greadigol.

Ond mae Gwledda yn sicrhau lle amlwg i elfen tu hwnt i ni fel pobl, sef byd natur. Mae pob sesiwn yn golygu treulio amser tu allan yn yr ardd wyllt, yr ardd lysiau neu ar iard yr ysgol yn sylwi a llonyddu yn yr awyr agored. Mae yna gysylltu efo’r grym enfawr ar ffurf y Fam Ddaear a theimlo ei chysur yn ein tywys i ddychmygu a chlywed ei negeseuon o anogaeth.

Natur sy’n ein tynnu at ein gilydd ond yn ein cysylltu ni efo ni’n hunain. Rydym yn ymgynnull wedyn yn y cwt neu yn gegin fach yr ysgol, ar dywydd garw ,i ddal y cyfan ar ffurf geiriau a brawddegau yn ffurfio ar garlam a dwylo’r cyfranogwyr am y gorau yn dilyn cynffon y syniadau. Mae yna ddefod o bwyllo a gwrando ar ein gilydd a chnoi cil ar ddelweddau, synau bachog, rhybuddion, geiriau o gariad a syniadau sydd yn codi yn garthen feddal dros yr ysgol a chymuned Rhosgadfan a thaflu ei hymylon yn bell dros oleudy a thraeth Llanddwyn.

Roedd presenoldeb heddychlon y ddaear yn gryfach nag erioed wrth i ni blannu coed hefo Anna Williams o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru;coed wedi eu meithrin yng Ngwaith Powdr Penrhyndeudraeth lle arferid creu arfau i ryfeloedd. Roedd tystio’r plant yn gorwedd ar eu boliau ar y ddaear yn selio’r pridd am fonion y coed tra oedd eu rhieni yn pwyso ar rawiau yn ddelwedd o lesiant pobl a natur yn asio’n un. Yn y darnau creadigol, roedd yna sôn am ‘anadlu’n ddyfnach’ ,’greu bywyd hefo’n dwylo’ a ‘phrint ein dwylo yn blanhigion wedi eu gwreiddio’.

Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio dros y misoedd nesaf hefo GwyrddNi ac i roi gwaddol i’r prosiect trwy’r cyswllt hefo’r mudiad gweithredu hwn ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned leol.

Mae’r sesiynau dwy-awr yn diflannu fel y gwynt ond mi ydw i’n derbyn sesiynau mentora er mwyn eu cynllunio, eu dadansoddi a gwyntyllu unrhyw hedyn rhydd sydd heb lanio ar y ddaear hefo’r bardd clare potter. Mi ges i gydweithio hefo clare gynta ar gynllun Ar y Dibyn ac wrth i mi gael fy ngwahodd i ddewis mentor, hi oedd y dewis cyntaf greddfol i mi. Mae clare yn deall, yn byw mewn byd wedi ei wreiddio’n ddwfn mewn cyswllt gyda natur.

Hefo clare, dwi’n cael darnau o farddoniaeth i edrych o’r newydd ar natur, ar sut mae arafu a chymryd stoc ac efallai, yn bwysicach na dim, ystyried sut mae fy llesiant i. Dwi’n cael symbyliad i ysgrifennu yn greadigol fy hun ac yn magu hyder wrth mi bryderu nad oes gen i hawl i ystyried fy hun yn awdur. Mae clare wedi magu awch yna i ysgrifennu yn ddyddiol, i gofnodi, i sylwi, i gymryd fy nghreadigrwydd fy hun o ddifri a hynny trwy dynerwch a chryfder gwe pry cop.

Mi fydd Gwledda, a’r sesiynau wythnosol, yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth gyda gwledd i’r gymuned leol yn neuadd yr ysgol wedi ei pharatoi o gynnyrch yr ardd a gydag arlwyo o’r cynnyrch creadigol. Efallai mai ar ffurf zine yn unig fydd hyn trwy ein partneriaeth gyda Zine Cymru ond rhywle, yn ddwfn yn fy nghalon,’rydw i’n gobeithio y bydd yna awydd gan y cyfranogwyr i ddarllen eu gwaith eu hunain , neu i’w clywed o enau eu plant.