Sesiwn hwyliog er mwyn cael blas ar greu syniadau, llinellau a phenillion, addas i blant 7-11 mlwydd oed.

Mynediad am ddim gyda thocyn.

Mae’r gweithdy’n cael ei gynnal yng nghanolfan newydd Glan-yr-Afon, sy’n gyfuniad o lyfrgell tref Hwlffordd, Canolfan Dwristiaeth, a Chaffi. Cyngor Sir Benfro sy’n gyfrifol am ariannu’r ganolfan, ond fel rhan o’r datbylgiad yma, mi fydd oriel newydd  gan y Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn harddangos rhai o’r trysorau cenedlaethol.  Mi fydd y Llyfrgell yn gyfrifol am gynnal cyfres o weithgareddau a chyflwyniadau yn y ganolfan hon, ac un o rhain yw’r gweithdy yma.

Caiff y gweithdy ei gynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.