Nan Shepherd: The Living Mountain

I gyd-fynd â’n harddangosfa, ‘Sometimes all you can do is walk’, yn Oriel Myrddin, rydym yn falch bod yr artist Angela Maddock wedi dewis llyfr yn arbennig ar gyfer ein Clwb Llyfrau.

Cafodd The Living Mountain gan Nan Shepherd ei ysgrifennu yn ystod y 1940au ond ni chafodd ei gyhoeddi am fwy na 30 mlynedd, ac mae wedi’i ddisgrifio’n ‘gampwaith o ysgrifennu am fyd natur’.

Mae’r llyfr yn disgrifio teithiau’r awdur i Fynyddoedd Cairngorm yn yr Alban ac yn manylu ar fyd o harddwch a gerwindeb, gan gofnodi’r dirwedd ffisegol a’r creaduriaid y mae’n dod ar eu traws yn ei rhyddiaith farddonol ddwys.

Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth anffurfiol a chyfeillgar yng nghwmni Kirsten Hinks-Knight.

“Y llyfr gorau a ysgrifennwyd erioed am natur a thirwedd ym Mhrydain.” The Guardian

“Mae’r rhan fwyaf o weithiau llenyddol am fynyddoedd wedi’u hysgrifennu gan ddynion, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn canolbwyntio ar y nod, sef y copa. Mae archwiliad diamcan a chwantus Nan Shepherd o Fynyddoedd Cairngorm yn wahanol ac yn ffres.” Robert Macfarlane

Darperir te a chacen am ddim ac mae croeso i bawb.