Oes gennych chi awydd ysgrifennu i blant ond yn teimlo’n ansicr o sut i fynd ati? Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, neu wedi bwrw wal gyda’ch prosiect creadigol? Ymunwch ag un o awduron plant fwyaf profiadol a disglair Cymru, Angharad Tomos wrth iddi gynnal sesiwn bywiog, rhyngweithiol ac addysgiadol.  

Dyma’r trydydd gweithdy mewn cyfres o sesiynau blasu ar-lein rhad ac am ddim a gynigir fel rhan o’r rhaglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru sydd ar y gweill. Ceir rhagor o wybodaeth am Cynrychioli Cymru a sut i gyflwyno eich cais yma. 

Bydd y gweithdy’n cynnwys ymarferion ysgrifennu i’ch helpu saernïo agoriad eich llyfr a chreu cymeriadau byw a fydd yn apelgar i blant. Bydd Angharad hefyd yn rhannu ei phrofiadau hi fel awdur i blant, ac yn cynnig cyngor i egin awduron sydd ar ddechrau eu taith.  

Byddwch yn gadael y gweithdy gyda syniadau a dulliau ysgrifennu newydd, ac yn teimlo’n fwy hyderus i fwrw ymlaen gyda’ch stori.  

Bydd aelodau o dîm Llenyddiaeth Cymru hefyd wrth law ar ddiwedd y gweithdy i ateb eich cwestiynau am raglen Cynrychioli Cymru a’r broses ymgeisio. 

Noder: Mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw ar gyfer y gweithdy hwn.  

Cofrestrwch yma

Cwrdd â’r awdur: 

Mae Angharad Tomos yn ysgrifennu llyfrau i oedolion a phlant ers dros 40 mlynedd. Yn enedigol o Ddyffryn Nantlle, mae wedi ennill Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1991 a 1997 a chafodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i lyfrau plant efo’r gyfres Rala Rwdins, â ddarluniodd yn ogystal â‘i ysgrifennu. Mae wedi ysgrifennu i S4C a Radio Cymru a dramâu i Theatr Genedlaethol Cymru, Bara Caws, Arad Goch a Fran Wen. Yn ogystal â nofelau i oedolion a llyfrau i blant, mae yn ddiweddar wedi sgrifennu llyfrau i bobl ifanc, ac roedd y diwethaf, Y Castell Siwgr (Gwasg Carreg Gwalch, 2020), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i amryw ieithoedd ac mae ganddi nofel i oedolion newydd ei gorffen gaiff ei chyhoeddi yn gynnar yn 2023. .