Dewislen
English
Cysylltwch

Arolwg Rhanddeiliaid Llenyddiaeth Cymru 2020/21

Cyhoeddwyd Maw 12 Ion 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Arolwg Rhanddeiliaid Llenyddiaeth Cymru 2020/21

Yn ôl ym mis Mai 2019, lansiodd Llenyddiaeth Cymru ein Cynllun Strategol 2019-2022 ac rydym ni’n sefydliad sy’n ymrwymo i dderbyn adborth cyson ar ein gwaith. Pob blwyddyn rydyn ni’n ymgynghori gyda’r sector ynghylch sut rydyn ni’n gwneud hyd yma. 

Os ydych chi’n gyfranogwr, yn awdur, yn ddarllenydd, yn wrandäwr neu’n wyliwr llenyddol, yn bartner, yn gyflenwr, neu’n unrhyw un arall rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn ystod y 12 mis diwethaf, hoffem glywed eich barn. Byddwn ni’n defnyddio eich adborth dienw i ddatblygu ein gweithgarwch a’n gweithrediadau ymhellach, ynghyd â’n cyfeiriad strategol.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau. Fel diolch am eich amser, byddwch yn derbyn taleb ar gyfer 20% i ffwrdd ar siop ar-lein Llenyddiaeth Cymru.

 

Cwblhewch yr arolwg yma