Dewislen
English
Cysylltwch

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn cynhyrchu tair yn rhagor o ffilmiau byrion ar y cyd

Cyhoeddwyd Iau 21 Hyd 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn cynhyrchu tair yn rhagor o ffilmiau byrion ar y cyd

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd unwaith eto er mwyn cynhyrchu tair ffilm fer newydd fydd yn serennu artistiaid dawns, beirdd, ac artistiaid sydd yn perfformio barddoniaeth yng Nghymru.

Mae Plethu/Weave yn gywaith traws gelfyddyd ddwyieithog sydd yn plethu barddoniaeth a dawns er mwyn creu ffilmiau byrion gwreiddiol. Mae’r broses yn un cwbl gydweithredol rhwng yr artistiaid, ac mae’r gwaith yn adlewyrchu profiadau, ofnau, a gobeithion y dawnsiwr a’r bardd, ac yn cynnig mewnwelediad i’r gwyliwr o’r byd cyfoes.

Yn ystod hanner tymor yr Hydref, bydd dawnswyr ifanc o Gynllun Cydymaith Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, sydd yn cynnig hyfforddiant dawns gyfoes o’r safon uchaf i ddawnswyr ifanc rhwng 14-19 oed, yn gweithio â Jaffrin Khan (awdur sydd yn rhan o gynllun Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru), y coreograffydd Richard Chappell, a’r dawnsiwr Kai Tomioka i gynhyrchu ffilm fer barddoniaeth a dawns.

Bydd yr artist perfformio amlddisgyblaethol Ffion Campbell-Davies yn cyd-weithio gyda’r bardd Marged Tudur (Enillydd Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2021 gyda’i chasgliad Mynd (Gwasg Carreg Gwalch) ar ffilm fer newydd, ac ym mis Rhagfyr bydd yr artist dawns Yvette Halfhide a’r cerddor Helen Woods yn gweithio gyda’r bardd a’r dramodydd Cymraeg Patrick Jones i gynhyrchu ffilm fer. Bydd Yvette a Helen yn arwain dosbarthiadau Dance for Parkinson’s ar ran Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru mewn pedwar lleoliad ar draw Cymru ac ar-lein, mewn partneriaeth â Bale Cenedlaethol Lloegr. Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i ndcwales.co.uk

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynhyrchu pum ffilm fer mewn partneriaeth â Tŷ Cerdd. Mae Affricerdd yn brosiect diwylliannol cydweithredol newydd rhwng Tŷ Cerdd a Phanel Cynghori Is-Sahara. Bydd y ffilmiau’n paru dawnswyr sydd yn byw yng Nghymru gyda cherddorion o dras Affricanaidd.

Hyd yn hyn, mae’r prosiect Plethu/Weave wedi cynhyrchu 15 ffilm. Er mwyn gwylio’r ffilmiau sydd wedi eu cynhyrchu, a dysgu mwy am yr artistiaid, ewch i’r hwb digidol ar wefan ndcwales.co.uk.

Meddai Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCC: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn parhau i hwyluso cynhyrchu’r ffilmiau traws gelfyddyd ysbrydoledig yma mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru. Mae’r gyfres nesaf yn cynnwys un ffilm wedi’i greu â’n Cynllun Cydymaith, rhaglen sydd yn meithrin angerdd dawnswyr ifanc at y grefft, ac sydd wrth galon ein gwaith Dysgu a Chyfranogi. Rwy’n edrych ymlaen at weld be ddaw o’r holl gydweithio artistig sydd ar waith.”

 

Yn ôl Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Pleser llwyr oedd bod yn dyst i ganlyniadau bendigedig ac ysbrydoledig gweithiau creadigol cydweithredol Plethu/Weave. Mae barddoniaeth a dawns yn ddwy ffurf arbennig o hunanfynegiant, ac mae’r prosiect hwn wedi dangos sut y gall y ffurfiau hyn gydblethu er mwyn creu darnau annibynnol o gelfyddyd. Rydym yn hynod falch o weld y cydweithrediad hwn yn parhau, ac yn edrych ymlaen yn arw at fwynhau gweithiau’r artistiaid hyn yn fuan iawn.”

Am ragor o wybodaeth am Plethu/Weave, ac i wylio’r holl ffilmiau, cliciwch yma.

Uncategorized @cy