Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi cyfrol cerddi Bardd Cenedlaethol Cymru: Rhwng Dau Olau gan Ifor ap Glyn

Cyhoeddwyd Maw 9 Maw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi cyfrol cerddi Bardd Cenedlaethol Cymru: Rhwng Dau Olau gan Ifor ap Glyn

Cyhoeddwyd casgliad newydd o farddoniaeth gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yr wythnos diwethaf; mae Rhwng Dau Olau (Gwasg Carreg Gwalch) yn cynnwys llawer o gerddi Ifor yn ei rôl fel Bardd Cenedlaethol Cymru yn ogystal â cherddi o Dalwrn y Beirdd a cherddi personol 

Mae’n gasgliad amrywiol: ceir cerddi rhyngwladol eu naws sy’n adlewyrchu teithiau Ifor i Tsiena, yr Almaen, Iwerddon a thu hwnt fel llysgennad diwylliannol. Mae rhai cerddi personol a llawer o gerddi eraill yn trafod Cymru a’i phobl, weithiau’n dathlu a thro arall yn cofio neu’n herio.  

Brithir y gyfrol gan luniau, mae rhai o’r rhain yn ffotograffau gan y bardd o deithiau tramor. Mae lluniau eraill yn cofnodi delwedd o gerddi fideo a gynhyrchwyd a cheir rhestr o gyfeiriadau i wefannau yng nghefn y gyfrol er mwyn cyfeirio’r darllenydd at y ffilmiau. 

“Dyma gasgliad i’w drysori,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “mae’r gyfrol yn ddathliad o waith gwych a diwyd Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae ystod y pynciau a’r syniadau o fewn y cloriau yn ymestyn o’r rhyngwadol i’r cartrefol ac o’r heriol i’r hudol, sy’n dangos talent ac apêl Ifor fel bardd.” 

Mae modd gwrando ar Ifor yn darllen rhai o’i gerddi ar sianel AM Gwasg Carreg Gwalch. Mae rhagor o wybodaeth am Rhwng Dau Olau ar gael yma, a gellir canfod copi yn eich siop lyfrau leol.  

Gallwch bori drwy ystod o gerddi comisiwn Bardd Cenedlaethol Cymru, yma.  

Uncategorized @cy