Dewislen
English
Cysylltwch

Natur a Ni: ffilm bwerus am greadigrwydd a’r amgylchedd

Cyhoeddwyd Llu 22 Ebr 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Natur a Ni: ffilm bwerus am greadigrwydd a’r amgylchedd

A hithau’n Ddiwrnod y Ddaear 2024, dyma gyfle euraidd i rannu Natur a Ni; ffilm bwerus yn cynnwys cerddi a chyfweliadau am greadigrwydd a’r amgylchedd. 

Mae’r ffilm yn gynnyrch dau brosiect a arweiniwyd gan Llenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol 2022. 

Ar gyfer y prosiect Natur a Ni, penododd y ddau sefydliad dau Fardd Preswyl – Durre Shahwar ac Elan Grug Muse – i ymateb yn greadigol i sgwrs genedlaethol am ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru. 

Yn y ffilm, mae Durre ac Elan yn adrodd cerdd yr un, wedi’i hysgrifennu mewn ymateb i’w gweithdai a’u sgyrsiau gyda phobl Cymru. 

Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau ag awduron y cynllun Gwaith Comisiwn i Awduron a gafodd ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru. Gyda nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, roedd y cynllun hwn yn rhoi cyfle i awduron a hwyluswyr creadigol ddyfeisio a chyflwyno prosiect ysgrifennu creadigol sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth, llesiant a’r amgylchedd naturiol. 

Y pedwar prosiect a gomisiynwyd oedd: 

  • Grym Geiriau/Write Back, dan arweiniad Bethany Handley a Megan Hunter, yn cynnig encil deuddydd, tairieithog (Cymraeg, Saesneg a BSL) yn Nhŷ Newydd lle daeth pobl ifanc Anabl, Byddar a/neu â salwch cronig at ei gilydd i archwilio eu profiadau a perthynas â natur; 
  • Writing Tree, dan arweiniad Gwyn Ruddell Lewis a Sarah Douglass, yn gweithio gyda rhieni newydd i wella eu lles a datblygu cysylltiad agosach â byd natur; 
  • The Long View, dan arweiniad Taylor Edmonds a Nasia Sawar a oedd yn ymgysylltu â merched o liw ac yn cyfuno ymweld â mannau natur yng Nghaerdydd â gweithgareddau gweithdy ysgrifennu creadigol i greu ymdeimlad o berthyn; a 
  • Ein Gardd Gudd, a arweiniwyd gan Natasha Borton ac Anastacia Ackers, a gyflwynodd gyfres o sesiynau ysgrifennu creadigol a pherfformio ar lafar rhwng cenedlaethau am amrywiaeth ac amrywiaeth y mannau gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Yn y ffilm, mae’r artistiaid yma yn rhannu eu harsylwadau a’u hangerdd am y pynciau dirdynol hyn.
Am ragor o wybodaeth ewch i ymweld â gwefan Natur a Ni