Dewislen
English
Cysylltwch

Gweithio tuag at ddiwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu talentau llenyddol Cymru a’n cymunedau cyfoethog ac amrywiol – Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Mer 1 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gweithio tuag at ddiwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu talentau llenyddol Cymru a’n cymunedau cyfoethog ac amrywiol – Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru
Mae rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni yn cynnwys amrediad eang o awduron rhagorol sy’n creu gwaith mewn sawl genre gwahanol. Rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo llwyddiant ysgubol y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a’r sector gyhoeddi sydd wedi eu cefnogi, ac rydym yn ddiolchgar i’r beirniaid am eu gwaith gwerthfawr ar y wobr.

Mae cymunedau a lleisiau cyfoethog ac amrywiol wedi bod yng Nghymru erioed. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw’r wobr lle y dylai fod o ran adlewyrchu’r amrywiaeth hwn. Nid yw’r rhestrau byrion wedi cynnwys awdur o gefndir Du, Asiaidd na lleiafrif ethnig ers sawl blwyddyn, nac ychwaith gynrychiolaeth deg o awduron anabl. Er bod rhai newidiadau wedi’u gwneud i geisio gwella hyn, mae’n amlwg nad ydym fel trefnwyr y wobr wedi gwneud digon ac mae angen i ni wneud mwy. Gall datblygiadau yn y dyfodol gynnwys gweithredu newidiadau mawr i’n gweithgareddau, ac rydym yn deall na allwn wireddu newid hirdymor ystyrlon dros nos nag ar ein pennau ein hunain. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gydag unigolion sy’n cael eu tangynrychioli a sefydliadau wrth i ni ddatblygu ein gweithgarwch, strwythurau a’n gweithdrefnau i fod yn gynhwysol a chroesawgar i bawb.

Mae rhwystrau sylweddol sy’n atal mynediad cyfartal a theg yn bodoli ers tro a hynny ar bob cam gyrfa ysgrifennu proffesiynol yng Nghymru. Nid yw hon yn broblem unigryw i Gymru, fel sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad diweddar Rethinking ‘Diversity’ in Publishing sy’n cynnwys nifer o argymhellion ymarferol i’r sector. Ynghyd â phartneriaid strategol allweddol byddwn yn blaenoriaethu delio â’r diffyg lleisiau amrywiol mewn llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru, ac yn nhymor yr hydref 2020 byddwn yn lansio rhaglen ddatblygu proffesiynol i awduron sy’n dod o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig. Bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar rai o’n mentrau diweddar yn cynnwys Cynrychioli Pawb a Rising Stars Cymru. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Uchelgais Llenyddiaeth Cymru yw i fod yn sefydliad sy’n gyrru diwylliant llenyddol cenedlaethol sy’n cynrychioli amrywiaeth y Gymru gyfoes. Rydym ni’n ymroddedig i weithredu’n gadarnhaol drwy addysgu ein hunain yn gyson, cynnal sgyrsiau agored a drwy sicrhau fod straeon ein cenedl yn adlewyrchu cyfoeth amrywiaeth y diwylliannau sy’n ei chreu.

 

Dr Kate North, Cadeirydd

Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr