Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Plant a Phobl Ifanc a chategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd Mer 20 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Plant a Phobl Ifanc a chategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai casgliad Y Pump (Y Lolfa) sy’n cipio Gwobr Plant a Phobl Ifanc eleni, ac mai Paid â Bod Ofn gan Non Parry (Y Lolfa) sy’n cipio’r Wobr Ffeithiol Greadigol.  

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar nos Fercher 20 Gorffennaf.  

Mae Y Pump yn gyfrol o bum nofel, pob un wedi eu cyd-ysgrifennu gan ddau awdur. Dyma nofelau gonest, pwerus a diflewyn-ar-dafod sy’n dilyn criw o ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Cyflwynwyd y llyfrau fel cyfrolau unigol yn wreiddiol, ond barn y Beirniaid oedd bod cyfrolau’r gyfres mor gysylltiedig, a’r cymeriadau yn ymddangos drwyddi-draw, ac felly nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddynt. At hynny, mae’r beirniaid wedi penderfynu eu gwobrwyo fel cyfanwaith, ac felly mae’r deg awdur, Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat), oll yn rhannu’r wobr a’r clod* 

Yn ei hunangofiant cignoeth, Paid â Bod Ofn, mae’r gantores Non Parry yn codi’r llen ar glamyr bywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl yn onest iawn. Fel aelod o grŵp pop Eden, daeth Non yn wyneb cyfarwydd pan oedd hi ond yn 22 oed. Dros nos roedd hi’n gwireddu breuddwyd gyda’i ffrindiau gorau, Emma a Rachael. Ond y tu ôl i’r gytgan “Paid â bod ofn”, roedd yna Non wahanol iawn. Yn 2018 daeth yr amser i gyfaddef y gwir: roedd ofn lot fawr o bethau arni.  

Wedi blynyddoedd o ddioddef yn dawel, digon oedd digon. Dyma ei stori hi – y plentyn ansicr yn dioddef o OCD a gorbryder aeth ymlaen i berfformio o flaen miloedd, a’r wraig a’r fam berffaith amherffaith sydd wedi dysgu byw gyda heriau salwch ei gŵr Iwan John a’r effaith gafodd blynyddoedd o ddisgwyl am drawsblaniad iddo ar y teulu cyfan.  

Mae Non yn aelod o’r grwp pop hynod boblogaidd, Eden. Mae hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ac ar hyn o bryd yn astudio gradd MA mewn Ymarfer Seicotherapiwtig. Mae ganddi bodlediad poblogaidd ar BBC Radio Cymru, Digon – sy’n ofod i gael sgwrs onest am iechyd meddwl.   

Mae enillwyr pob categori yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Maent hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 6.30 pm – 7.00 pm ar nos Iau 21 Gorffennaf. 

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.

Cyhoeddi Prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 

Neithiwr, fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru enillwyr y categorïau Ffuglen Cymraeg @PrifysgolBangor a Barddoniaeth, sef Mori gan Ffion Dafis (Y Lolfa), a merch y llyn gan Grug Muse (Cyhoeddiadau’r Stamp). Ar nos Iau 21 Gorffennaf 2022, bydd beirniaid y Wobr yn cyhoeddi pa un o’r pedwar enillydd categori sy’n mynd ymlaen i ennill y brif wobr, a chipio teitl Llyfr y Flwyddyn 2022. Bydd y cyhoeddiad yn digwydd ar rifyn arbennig o Stiwdio ar BBC Radio Cymru. Yn ogystal â chyhoeddi’r prif enillydd, cawn hefyd glywed pa gyfrol sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd gan ennill pleidlais Barn y Bobl Golwg360.  

Caiff holl enillwyr y wobr Saesneg eu cyhoeddi ar nos Wener 29 Gorffennaf ar The Arts Show BBC Radio Wales. Caiff y gwobrau Saesneg eu beirniadu gan y bardd a’r awdur Krystal Lowe, y newyddiadurwr a darlledwr Andy Welch, yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown, a’r bardd ac enillydd Gwobr Rising Stars Cymru 2020, Taylor Edmonds.   

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. 

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru:

“Am braf cael llongyfarch nid un, ond deg awdur am gipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni – a phob un o gyfrolau Y Pump yn llwyr haeddu eu lle fel cyfrolau unigol. Dwi’n siŵr fod yr awduron wrth eu boddau o gael cwmni ei gilydd ar y rhestr, os yw eu cyfeillgarwch chwarter gystal â’r cyfeillgarwch rhwng cymeriadau Y Pump. Llongyfarchiadau mawr i Non hefyd sydd yn agor ei chalon, a hynny yn y dafodiaith orau un yn ei chyfrol Paid â Bod Ofn, ac yn arwain y ffordd yn ddewr i sgyrsiau agored am iechyd meddwl.”  

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn  

 

Llyfr y Flwyddyn