Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar daith drwy’r Almaen

Cyhoeddwyd Maw 9 Tach 2021 - Gan Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar daith drwy’r Almaen
Bernd Scholz-Reiter (Rektor Prifysgol Bremen); Corinna Reynolds; Ifor ap Glyn; Colin Riordan (Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd)

Taith Drwy’r Almaen

2 – 4 Tachwedd 2021

 

Mae eleni yn flwyddyn ‘Cymru yn yr Almaen’. Dyna’r enw ar raglen o ddigwyddiadau dan ofal ein llywodraeth yng Nghaerdydd, i wneud yn siŵr nad yw Cymru’n colli allan yn sgil Brexit, gan mai’r Almaen oedd y wlad oedd yn derbyn fwyaf o allforion Cymru cyn hynny. Y nod yw hybu ymwybyddiaeth, a’r wythnos hon roedd yn fraint gen i wneud fy rhan fel Bardd Cenedlaethol, gyda phedwar gig dros dridiau mewn tair dinas yn yr Almaen: Bonn, Marburg a Bremen. Mae prifysgolion Bonn a Marburg yn ganolfannau ar gyfer astudiaethau Celtaidd, tra bod Prifysgol Bremen newydd sefydlu partneriaeth strategol hefo Prifysgol Caerdydd, er mwyn hybu ymchwil a dysgu ar y cyd.

I Bonn yr ês i’n gynta felly, gyda cherflun Beethoven yng nghanol y ddinas i’n hatgoffa mai yno y magwyd y cyfansoddwr enwog. Ar ôl cinio sydyn hefo Irene Balles a Gisbert Hemprich o’r adran Geltaidd, cefais fy hun gerbron rhyw ddeugain o fyfyrwyr a’u darlithwyr a oedd wedi dod ynghŷd mewn darlithfa yn yr hen goleg. Gwnes i ryw awr o gyflwyniad, gyda chwestiynau wedyn, ac yna cymdeithasu wrth stondin goffi o flaen y coleg, yn y glaw. Erbyn ffarwelio, ro’n i’n teimlo fel fy merch pan wnaeth hi adael cartre a mynd o Gaernarfon am y tro cynta, a chyhoeddi dros y ffôn bod hi ‘wedi siarad cymaint o Saesneg nes oedd ei phen hi’n brifo’. Ac felly ôn innau’n teimlo hefo’r Almaeneg; mae’n debyg y gallswn i ddefnyddio’r Saesneg yn unig i gyflwyno ’ngherddi, ond gan ’mod i’n gofyn iddyn nhw roi parch i’n hiaith ninnau, y peth lleia gallwn i wneud oedd parchu eu hiaith nhwthau. (Os parchu hefyd! Roedd fy nghyflwyniadau’n ddigon clapiog, wrth geisio dwyn yn ôl gwersi ysgol o’r mil-naw-saithdegau pell. Ond  besser Schuldeutsch als schlaues Englisch – gwell Almaeneg slac na Saesneg slic!)

Nid bod unrhywbeth yn ‘slac’ am y cyfieithiadau Almaeneg a rannwyd i’r myfyrwyr ar daflenni, fel eu bod yn gallu dilyn fy narlleniadau yn Gymraeg. Roedd rhain wedi’u trosi’n gelfydd o flaen llaw, gan Daniela Schlick, sy’n hanu o Lößnitz yn wreiddiol ond yn gwbl rugl ei Chymraeg bellach (er mai ers pum mlynedd yn unig mae wedi byw yng Nghymru).

Ar yr ail ddiwrnod, cefais daith ar y trên i Siegburg, ac yna Frankfurt, cyn cyrraedd Marburg o’r diwedd. Yma sefydlwyd prifysgol Brotestannaidd gynta’r Almaen yn ôl yn 1527, a chefais daith sydyn o gwmpas yr hen ddinas yng nghwmni Elena Parina o’r Adran Geltaidd. Dangosodd, ymhlith pethau eraill, weddillion yr hen synagog a ddinistriwyd yn 1938 – ond braf nodi fod y ddinas yn fwy cynhwysol heddiw, gyda’r goleuadau ar groesfannau i gerddwyr yn dangos cyplau o wahanol rywioldeb. Syniad hyfryd!

Criw o ryw 20 oedd yn disgwyl amdana’i yn yr adran, ac ar ôl darllen ambell gerdd, esbonio cynghanedd hefo enghreifftiau Almaeneg (!) ac ateb eu cwestiynau gorau fedrwn-i, ymlaen â fi wedyn i ail gyhoeddiad y diwrnod, am 7.00 o’r gloch nos yn yr Haus der Romantik.

Dyma’r amgueddfa yn y ddinas sy’n dathlu’r casglwyr chwedlau ac awduron Rhamantaidd fu’n gweithio yn yr ardal hon dros 200 mlynedd yn ôl, a’r Brodyr Grimm yn eu plith. Lle hyfryd ar gyfer darlleniad mwy traddodiadol, a braf cael cyfle i estyn allan at ambell un nad oedd yn gysylltiedig â’r Adran Geltaidd; ond roedd yn galonogol hefyd gweld rhai fu’n gwrando’n y prynhawn wedi dod nôl am fwy!

Mae’n rhyfeddol faint o ddysgu ar y Gymraeg sy’na yn yr Almaen – a chyn lleied ’dan ni’n clywed am hyn yng Nghymru. Yn ogystal â Marburg a Bonn, mae modd astudio’r Gymraeg ym mhrifysgolion Leipzig, Königswinter a Mannheim hefyd. (Mae’n werth nodi mai dwy brifysgol yn unig sy’n cynnig cyrsiau o’r fath yn Lloegr.) Tan yn ddiweddar bu modd astudio’r Gymraeg yn Hamburg, Berlin a Freiburg hefyd, ac yn y ddinas olaf honno wrth gwrs, y bu T. H. Parry-Williams yn fyfyriwr toc cyn y Rhyfel Mawr. Ond mae’r diddordeb Almaenig mewn ieithoedd Celtaidd yn mynd nôl o leia hanner can mlynedd cyn hynny. Mewn Almaeneg, (nid Cymraeg, Gwyddeleg na Saesneg), y cafwyd y cylchgrawn academaidd cynta’n y byd i drafod yr ieithoedd Celtaidd, (y Zeitschrift für Keltische Philologie, o 1896 hyd heddiw) ac os ’dach chi isio clywed y recordiadau hynaf yn y byd o Gymraeg yn cael ei siarad (yn hytrach na’i chanu), bydd rhaid mynd i Fiena neu Berlin, am mai ymchwilwyr Almaeneg eu hiaith wnaeth eu recordio nhw ar silindrau cwyr, dros ganrif yn ôl!

Ar y diwrnod olaf, ymlaen â fi i Hannover ac yna Bremen, ar gyfer noson olaf y daith. Roedd hwn yn ddigwyddiad mwy ffurfiol, yn Theatr y Metropôl, Bremen, a minnau’n rhannu llwyfan y tro hwn hefo’r soprano Corinna Reynolds. Mae Corinna wedi’i magu yn Bremen, ond a’i mam hi wedi’i geni yng Nghaerdydd, nid yw’n syndod fod gwaith Trevor Roberts, W. S. Gwynn Williams, heb sôn am ganeuon Cymreig Haydn a Beethoven, i gyd yn rhan o’i repertoire.

Braf wedyn oedd cael cyfle i siarad hefo penaethiaid prifysgolion Caerdydd a Bremen, Colin Riordan, a Bernd Scholz-Reiter, am eu cynlluniau i ddatblygu’r berthynas rhwng y ddau sefydliad. ‘Die Zukunft ist europäisch’ fel y dywedwyd yn eu datganiad i’r wasg; hynny yw, ‘mae’r dyfodol yn Ewropëaidd’. Ac yn sgil Brexit, mae mentrau fel hyn, i gynnal y berthynas ddiwylliannol a’r cysylltiadau economaidd a gwleidyddol rhwng ein dwy wlad mor bwysig os nad yn bwysicach nac erioed. Diolch i brifysgolion Bonn, Marburg, Bremen a Chaerdydd felly, am y cyfle i gyfrannu at y ddeialog hon; a mawr obeithiaf y bydd modd ei pharhau yn fuan, yma yng Nghymru yn ogystal ag yn yr Almaen.

Ifor ap Glyn, 5 Tachwedd 2021