Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023: Dathlu awduron mwyaf talentog Cymru mewn person unwaith eto

Cyhoeddwyd Mer 10 Mai 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae’n fraint gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi y byddwn yn dod â’r gymuned lenyddol ynghyd i ddathlu awduron Cymru wrth inni gynnal seremoni wobrwyo fyw ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2023, a hynny yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar nos Iau 13 Gorffennaf.

Yn dilyn pedair blynedd o gyhoeddi drwy gyfrwng y radio, braf yw medru dychwelyd i wobrwyo awduron mwyaf dawnus Cymru ar lwyfan, tra’n parhau i gyd-weithio gyda BBC Cymru Wales yn dilyn llwyddiant ein partneriaeth dros y cyfnod diweddar.

 

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – BarddoniaethFfuglenFfeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn ogystal â hyn, bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

 

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.

 

Datgelwyd enwau beirniaid 2023 nôl ym mis Mawrth. Mae’r panel Cymraeg yn cynnwys y bardd arobryn Ceri Wyn Jones; enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a’r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones.  Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA Emily Burnett; yr awdur a’r athro Emma Smith-Barton; y bardd a’r golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn Mike Parker.

 

Y Rhestr Fer

Mae’r beirniaid wrthi’n trafod y cyfrolau a llunio eu rhestr fer ar hyn o bryd, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyhoeddi pa lyfrau mae’r beirniaid wedi ffafrio ar ddydd Sul 21 Mai 2023. Bydd y rhestr fer Gymraeg yn cael ei datgelu ar raglen newydd sbon Ffion Dafis, enillydd y wobr llynedd, ar BBC Radio Cymru rhwng 2.00pm – 4.00pm. O 4.00pm ymlaen bydd cyfle i glywed pa lyfrau sydd wedi eu dewis gan y panel Saesneg eleni, a hynny ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales.

Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol i’r fformat digidol a ddatblygwyd yn dilyn pandemig Covid-19, a braf oedd profi bwrlwm o ddathlu’r awduron ar y cyfryngau cymdeithasol. Pleser felly yw parhau i ddilyn y drefn yma wrth gyhoeddi’r rhestr fer dros y tonnau. Yn dilyn ymgynghori â’r awduron a’r gweisg, rydym yn dychwelyd eleni i gynnal seremoni fyw ar gyfer cyhoeddi’r enillwyr, a hynny er mwyn sicrhau fod awduron mwyaf talentog Cymru a’r gymuned lenyddol sy’n eu cefnogi yn cael y cyfle i rwydweithio a dathlu eu gwaith o flaen cynulleidfa byw. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddathlu eu talentau ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, a thrafod y seremoni a’r gwobrau ar y radio mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales yn dilyn cyhoeddi’r enillwyr.

Yn ystod y brif seremoni ar nos Iau 13 Gorffennaf yn y Tramshed yng Nghaerdydd, bydd y beirniaid yn traddodi beirniadaeth ac yn cyhoeddi un llyfr buddugol ym mhob categori. Byddwn hefyd yn clywed pa lyfrau sydd wedi derbyn pleidlais y cyhoedd yw yng ngwobrau Barn y Bobl Golwg @360 a Wales Arts Review eleni, cyn clywed pa lyfr sydd wedi dod i’r brig yn y ddwy iaith gan gipio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2023. Bydd cyfle i fwynhau perfformiad gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, ar y noson, a chyfle i sgwrsio a chyfarch yr awduron. Bydd nifer cyfyngedig o docynnau i’r seremoni ar gael, a byddwn yn rhannu’r manylion maes o law.

I ganfod mwy am y wobr, y beirniaid, ac enillwyr y gorffennol, ewch draw i dudalen Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Llyfr y Flwyddyn