Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a phartneriaeth ddarlledu gyda BBC Cymru Wales
Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi pwy sydd ar banel beirniadu Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, ynghyd â phartneriaeth ddarlledu gyda BBC Cymru Wales ar gyfer cyhoeddi’r rhestrau byrion a’r enillwyr.
Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.
Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac actifydd, a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams. Mae manylion llawn yr holl feirniaid i’w gweld yma.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sydd yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus ynghyd a thlws eiconig Llyfr y Flwyddyn wedi ddylunio gan yr artist a’r gof, Angharad Pearce Jones.
Cyhoeddir y rhestrau byrion ddiwedd mis Mehefin, a bydd enillwyr pob categori, ynghyd ag enillwyr Gwobr Barn y Bobl a’r Prif Enillwyr, yn cael eu cyhoeddi dros y tonfeddi radio yn ystod yr haf.
Yn dilyn llwyddiant gwobrau 2020, mae Llenyddiaeth Cymru a BBC Cymru Wales wedi cadarnhau y byddant yn gweithio mewn partneriaeth eto eleni er mwyn cyhoeddi’r rhestrau byrion ac enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 trwy gyfres o gyhoeddiadau ar raglenni radio Stiwdio a The Arts Show, a fydd yn cynnwys sgyrsiau â’r beirniaid a’r awduron.
Meddai Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru a Cymru Fyw, “Rydym yn hynod falch o’r cydweithio sydd wedi bod rhyngom a Llenyddiaeth Cymru gyda darlledu Llyfr y Flwyddyn ers blynyddoedd. Mae’r digwyddiad yn prysur ddod yn un o uchafbwyntiau ein calendar a bydd hynny yn digwydd eto eleni. Fel dau wasanaeth sy’n greiddiol i gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg mae’n hynod bwysig ein bod yn cydweithio ac yn sicrhau fod y digwyddiad pwysig yma yn cael llwyfan teilwng.”
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am enillwyr y gorffennol ac am y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar hyd y blynyddoedd, yma: Archif Llyfr y Flwyddyn.
Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym wrth ein boddau fod cyfle wedi codi i gydweithio â BBC Cymru Wales unwaith yn rhagor eleni gan nad oes modd i ni gynnal ein seremoni hwyliog arferol yr haf hwn ychwaith. Mae’r bartneriaeth ddarlledu hon yn ein galluogi i rannu cyffro a bri Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda chynulleidfaoedd creadigol Cymru a thu hwnt, ble bynnag yn y byd y bônt.”
Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn i holl noddwyr a phartneriaid y gystadleuaeth am eu cefnogaeth: BBC Cymru Wales, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Golwg360, Wales Arts Review a Cyngor Llyfrau Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am bartneriaid y wobr ar gael yma.